Mae safonau'n diffinio arfer gorau mewn llawer o feysydd gwahanol. Maent yn cael eu rhoi at ei gilydd gan grwpiau o arbenigwyr ac yn dod mewn nifer o wahanol fathau, o set o ddiffiniadau i gyfres o reolau llym.
I weld dogfennau Safonau Prydeinig ar-lein bydd angen i chi lawrlwytho ac agor y ffeil PDF mewn darllenydd PDR megis Adobe Reader. Hefyd, gofynnir i chi lawrlwytho a gosod yr ategyn FileOpen am fod hyn yn diogelu’r dogfennau.
Os byddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau wrth agor y safon, ceisiwch agor o'ch ffolder Lawrlwythiadau, trwy dde-glicio (neu ddefnyddio bysell Command ar iOS) a dewis "Open with Adobe Acrobat Reader".