Skip to Main Content

Astudiaethau Americanaidd: Llyfrau

This page is also available in English

Canfod Llyfrau a Chyfnodolion yn y llyfrgell

Lleolir y rhan fwyaf o’r llyfrau a ddefnyddir ar gyfer astudiaeth astudieathau Americanaidd ar Lefel 3 Gorllewin ac Lefel 3 Dwyrain y Llyfrgell Singleton. Y prif ystodau marc dosbarth ar gyfer y llyfrau hyn yw E, F  a PS
 

  E

      Hanes- Gogledd America 

    Lefel 2 Gorllewin 

 F

       Hanes- Yr America

    Lefel 2 Gorllewin

 PS

        Llenyddiaeth Americanaidd 

    Lefel 3 Dwyrain

Mae modd canfod y rhan fwyaf o gyfnodolion Hanes Americanaidd (ar ffurf print) yn yr ystod E-F ar Lefel 2 y Gorllewin. Gellir canfod cyfnodolion ar gyfer llenyddiaeth Americanaidd yn PS ar Lefel 3 y Dwyrain.    

Dod o hyd i lyfrau

I ddod o hyd i leoliad y llyfr yr ydych ei angen, defnyddiwch iFind, ein catalog llyfrgell.  Mae yna ddyfais i chwilio am iFind ar y dudalen hon.  Mae yna hefyd ganllaw i ddefnyddio iFind ar waelod yr adran hon ynghyd â chanllawiau fideo ar y dudalen ‘Dechrau Arni’.  Rydym hefyd wedi atodi canllaw i’ch helpu i ddod o hyd i lyfrau yn y llyfrgell.

 

Defnyddio iFind

Wrth ddefnyddio iFind i chwilio am lyfr penodol rydym yn argymell defnyddio cyfenw’r awdur ac un neu ddau o eiriau allweddol o’r teitl.

eLlyfrau

Gellir dod o hyd i’r rhan fwyaf o’n e-lyfrau drwy iFind. Mae ein e-lyfrau ar gael drwy: Proquest, EBSCO. Bydd y tabiau hyn yn dweud ychydig yn rhagor i chi am y tair prif gronfa ddata. I logio i mewn, defnyddiwch eich rhif myfyriwr 6 digid fel eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair arferol.