Skip to Main Content

Astudiaethau Americanaidd: Erthyglau

This page is also available in English

Browzine

Cronfeydd Data Cyfnodolion Allweddol

Dod o hyd i erthyglau cyfnodolion a defnyddio cronfeydd data

Mae erthyglau cyfnodolion academaidd yn ffynhonnell ardderchog o wybodaeth ysgolheigaidd ar eich pwnc. Dyma ychydig o awgrymiadau ar gyfer dod o hyd i erthyglau cyfnodolion:-

  • Yn aml bydd gan erthyglau ar eich rhestrau darllen ddolen i adael ichi ddarllen y testun ar unwaith
  • Defnyddiwch y chwiliad Erthyglau a mwy  yn iFind, yn enwedig os ydych chi'n gwybod enw'r erthygl rydych chi ei eisiau
  • Fe welwch ganlyniadau mwy perthnasol os ydych chi'n chwilio cronfeydd data arbenigol - Gallwch weld rhai awgrymiadau isod.
  • Defnyddiwch y crynodeb (crynodeb o'r erthygl) i'ch helpu chi i benderfynu a yw erthygl yn berthnasol i chi

Gallwch ddefnyddio iFind i ddod o hyd i erthyglau cyfnodolion ar bwnc neu gan awdur penodol. Os ydych chi am gynnal chwiliad mwy trylwyr mae'n well defnyddio cronfeydd data electronig. Mae rhai o'r cronfeydd data hyn (e.e. JSTOR) yn cynnwys erthyglau testun llawn, tra bod eraill (e.e. Web of Science) yn cynnwys cyfeiriad (neu gofnod) a chrynodeb o'r erthygl yn unig. Yn yr achos hwn, byddwch yn aml yn gweld dolen 'iGetIt @ Prifysgol Abertawe' y gallwch glicio arno i weld a ydym yn dal yr erthygl yma.

Sut i wella eich chwilio

Allweddeiriau

  • Chwiliwch am yr allweddeiriau. Peidiwch â theipio brawddeg hir
  • A oes cyfystyron neu dermau cysylltiedig (ehangach neu fwy penodol) a allai fod yn berthnasol?

Cynyddu nifer y canlyniadau

  • Gallwch ddefnyddio symbol cwtogi (seren * fel arfer) i ddod o hyd i derfyniadau gwahanol ar gyfer eich allweddair. Er enghraifft byddai chwilio am darllen* yn dangos canlyniadau am darllen, darllenwyd, darllenadwy ayyb.
  • Gallwch chwilio am dermau amgen ar yr un pryd drwy eu cysylltu â'r gair or; er enghraifft, gallwch chwilio am adolescent or teenager.

Lleihau nifer mawr o ganlyniadau

  • Os oes gennych ormod o ganlyniadau, rhowch gynnig ar chwilio ar sail y teitl yn unig yn hytrach na'r cofnod llawn. Dylech gael llai o ganlyniadau a rhai mwy perthnasol.
  • Defnyddiwch ddyfynodau os hoffech i'ch termau chwilio ymddangos fel ymadrodd.
  • Defnyddiwch ‘and’ i gyfuno termau chwilio
  • Defnyddiwch yr opsiwn refinement a'r blwchsearch within i wneud eich chwiliad yn fwy penodol.

Mae gwerthuso eich ffynonellau yn feirniadol yn elfen hanfodol o unrhyw chwiliad llenyddiaeth. Mae angen i chi ystyried a yw eich ffynonellau'n:

  • Dibynadwy
  • Digon academaidd
  • Diduedd

Gofynnwch y cwestiynau canlynol i chi eich hun am yr wybodaeth rydych wedi dod o hyd iddi.

Pwy?

  • Pwy yw'r awdur neu sefydliad sy'n gyfrifol am yr wybodaeth?
  • A ydynt yn gymwys i ysgrifennu ar y pwnc hwn?

Pryd?

  • A yw'r wybodaeth yn gyfredol?
  • A ydyw o bwys?

Pa fath o wybodaeth?

  • Ai barn neu ffaith ydyw?
  • A yw'n ddibynadwy ac yn annibynnol?
  • A yw'n canolbwyntio ar ymchwil/academaidd neu'n fasnachol?