Skip to Main Content

Astudiaethau Americanaidd: Archifau a Chasgliadau Arbennig

This page is also available in English

Archif, Ymchwil a Chasgliadau Arbennig

Tynna’r dudalen hon sylw at rai o’r casgliadau archif, ymchwil ac arbennig sydd yn ein llyfrgelloedd.

Casgliadau Arbennig

Cedwir nifer o gasgliadau arbennig o lyfrau, megis Casgliad Allan Milne (ar Ryfel Cartref America) sy’n gyfraniad diweddar, yn Storfeydd y Llyfrgell a’r Ganolfan Wybodaeth. Cymynroddion neu gyfraniadau yw’r rhain yn bennaf. Ni ellir benthyca llawer o’r deunydd, a gellir edrych ar rai ohonynt dan amodau arbennig yn unig. Mae'r rhan fwyaf o'r eitemau i’w gweld yng nghatalog iFind. Holwch wrth Ddesg Llyfrgell MyUni i gael manylion ynghylch mynediad at ddeunydd y casgliadau arbennig hyn.  Cewch ragor o wybodaeth ar ein tudalen we Llyfrau Prin a Chasgliadau Arbennig.

 

Casgliadau Ymchwil Llyfrgell Glowyr De Cymru

Mae’r casgliadau sy’n cael eu cadw yn Llyfrgell Glowyr De Cymru (wedi’i lleoli ym Mhentref Myfyrwyr Hendrefoelan) yn archwilio elfennau gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol o Dde Cymru ddiwydiannol. Casgliad Maes Glo De Cymru (SWCC) yw’r casgliad ymchwil mwyaf, ond mae’r llyfrgell yn cadw nifer o gasgliadau llai sydd wedi’u rhoi gan academyddion, gwleidyddion, sefydliadau a gweithwyr.

Mae'r rhain yn darparu adnoddau ymchwil gwerthfawr ar draws nifer o ddisgyblaethau, yn cynnwys Hanes Diwydiannol, Llenyddiaeth Saesneg, Gwleidyddiaeth, Seryddiaeth ac Athroniaeth.  Gweler tudalen Casgliadau Ymchwil Llyfrgell Glowyr De Cymru am ragor o wybodaeth.

Casgliad Allan Milne – Rhyfel Cartref America

Mae Casgliad Allan Milne, sy’n cynnwys dros 2500 o lyfrau ar Ryfel Cartref America, mewn storfa ar Lefel 2 Gorllewin y Llyfrgell a’r Ganolfan Wybodaeth. Mae’n cynnwys llawer o ddeunyddiau gwreiddiol, megis dyddiaduron, hunangofiannau a llythyron milwyr. Dyma un o’r casgliadau mwyaf o ddeunyddiau sy’n ymwneud â’r Rhyfel Cartref yn y DU ac mae o werth mawr i lawer o ymchwilwyr a myfyrwyr.  

I weld eitemau, chwiliwch ar iFind a gofynnwch wrth ddesg MyUni yn y llyfrgell.

I chwilio iFind – chwiliwch ac yna gyfyngu eich canlyniadau i eitemau yng Nghasgliad Milne gan ddefnyddio’r golofn “Tweak My Results” ar ochr chwith y dudalen (cliciwch ar “Milne Collection” neu “Milne Collection Folios” etc o dan Location). Gwnewch restr o deitlau a rhifau yna gofynnwch wrth Ddesg Llyfrgell MyUni i weld yr eitemau hyn. Gallwch e-bostio myunilibrary@abertawe.ac.uk ymlaen llaw gan nodi pryd byddwch yn bwriadu dod mewn fel y gall staff gael y llyfrau’n barod i chi.  

Os ydych chi’n fyfyriwr traethawd estynedig neu’n ymchwilydd, efallai y gellir actifadu eich cerdyn i gyrchu’r casgliad (e-bostiwch ni i ofyn am hyn culturecommlib@abertawe.ac.uk

Casgliadau Archif ac Ymchwil

Mae ein tudalen we Casgliadau Archif ac Ymchwil yn rhoi dolenni i wybodaeth am y casgliadau ymchwil hanesyddol sydd gennym. Ceir y casgliadau hyn yn Archifau Richard Burton, Llyfrgell Glowyr De Cymru ac yn ein Llyfrau Prin a gedwir yn swyddfa y Cyflenwad Dogfennau.