Daw’r casgliad hwn, o ddogfennau prif ffynhonnell Hanes America, o’r Rhyfel Cartref hyd at ganol yr ugeinfed ganrif. Fe ddaw o Gasgliad Gilder Lehrman. *Noder: Er y teitl, mae gennym fynediad ar gyfer y blynyddoedd 1860-1945 yn unig.
Mae JSTOR yn cynnwys testun llawn cyfnodolion, fel arfer o'r rhifyn cyntaf hyd at oddeutu 5 mlynedd yn ôl. Ar gyfer rhifynnau mwy diweddar, yn aml darperir dolenni i destun llawn erthyglau ar wefannau allanol. Mae'r pynciau'n cynnwys ecoleg, economeg, addysg, cyllid, hanes, iaith a llenyddiaeth, mathemateg ac ystadegau, athroniaeth, cymdeithaseg, anthropoleg, gwleidyddiaeth ac astudiaethau poblogaeth.
Casgliad digidol yw’r E-Lyfr Humanities a gynigir gan y ACLS mewn cydweithrediad â deg cymdeithas ddysgedig, bron i 80 o gyhoeddwyr sy'n cyfrannu, a llyfrgellwyr yn Swyddfa Cyhoeddi Ysgolheigaidd Prifysgol Michigan. Y canlyniad yw casgliad ar-lein, chwiliadwy o lyfrau o safon uchel yn y Dyniaethau, wedi’u hargymell a'u hadolygu gan ysgolheigion.
Mae'r gronfa ddata hon yn cynnwys dros 3 miliwn o gyfeiriadau llyfryddiaethol at erthyglau mewn cyfnodolion, ynghyd â llyfrau, adolygiadau a detholiad o benodau sy'n dyddio'n ôl i 1951. Mae'n unigryw oherwydd ei bod yn cwmpasu amrywiaeth eang o ddeunydd rhyngwladol ac yn cynnwys dros 100 o ieithoedd a gwledydd. Caiff mwy na 2,800 o gyfnodolion eu mynegeio'n rheolaidd ac mae tua 7,000 o lyfrau'n cael eu cynnwys bob blwyddyn.
Mae Project Muse yn rhoi testun llawn o flynyddoedd diweddar o tua 150 o gylchgronau o ansawdd uchel a adolygwyd gan gymheiriaid yn y Dyniaethau. Mae cyfran uchel iawn yn ymwneud â llenyddiaeth. Mae hefyd yn rhoi mynediad rhwydd i gannoedd o eLyfrau.
Dyma restr o'r cronfeydd data sy'n berthnasol i fyfyrwyr Astudiaethau Americanaidd. Archwiliwch yr A-Y hwn neu edrychwch ar y tudalennau canlynol i gael mwy o arweiniad i'r cronfeydd data. Os cliciwch 'gweld mwy o ganlyniadau' gallwch archwilio ein holl gronfeydd data, cyrchu disgrifiadau cronfa ddata a'u hidlo yn ôl math o gronfa ddata.