Skip to Main Content

Gwybodaeth llyfrgell a sgiliau digidol ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig: Llenyddiaeth lwyd, data clinigol a setiau data

This page is also available in English

Llenyddiaeth lwyd ar gyfer y gwyddorau meddygol ac iechyd

Mae llenyddiaeth lwyd yn cyfeirio at ddeunydd ymchwil – wedi’i gyhoeddi a heb ei gyhoeddi – nad yw ar gael yn fasnachol.

Dyma rai enghreifftiau o lenyddiaeth lwyd:

  • papurau cynhadledd/trafodion cynhadledd
  • traethodau ymchwil
  • treialon clinigol
  • cylchlythyrau
  • Pamffledi
  • adroddiadau
  • taflenni ffeithiau, bwletinau
  • dogfennau’r llywodraeth
  • arolygon
  • cyfweliadau
  • cyfathrebiadau anffurfiol (e.e. blogiau, podlediadau, e-byst)

Weithiau, llenyddiaeth lwyd yw’r ffynhonnell orau o ymchwil gyfoes i rai pynciau. Serch hynny, sylwer nad yw llenyddiaeth lwyd bob amser wedi cael ei hadolygu gan gymheiriaid a rhaid cofio hyn wrth ei gwerthuso.

Bydd y canllaw hwn i Lenyddiaeth Lwyd yn cynnig dolenni i rai ffynonellau o safon:

Peiriannau chwilio data cyffredinol

Mae’r rhain yn beiriannau chwilio a fydd yn chwilio am setiau data ymchwil sydd wedi’u cyhoeddi.O’r rhestr, dim ond Elsevier DataSearch fydd yn dod o hyd i ddata sydd wedi’i gyhoeddi fel deunydd atodol.Yn debyg i beiriannau chwilio’r we cyffredinol, nid oes un a fydd yn dod o hyd i’r holl setiau data, felly efallai bydd angen ichi chwilio mewn nifer o ffynonellau.

Canllaw i setiau data yn y gwyddorau iechyd a meddygol

Mae canllaw llyfrgell ar setiau data - sut i ddod o hyd iddynt, eu chwilio a'u cyfeirnodi yma: