Gwybodaeth ar gyfer cynllunio strategaeth chwilio a dewis ffynonellau.
Mae'r dudalen hon yn disgrifio'r 4 prif gam i chwiliad llenyddiaeth llwyddiannus. Mae cyngor a chymorth ychwanegol bob amser ar gael gan eich llyfrgellwyr. Gweler ein manylion cyswllt ar yr hafan. Mae'n bosib y byd y nodiadau a'r dolenni isod yn ddefnyddiol hefyd.
Dechreuwch ystyried eich prif dermau chwilio drwy adnabod y cysyniadau allweddol yn eich cwestiynau ymchwil, yna ystyriwch gyfystyron, termau cysylltiedig, sillafiadau gwahanol, byrfoddau, termau mwy penodol a chyffredinol y byddai awdur neu awduron efallai wedi’u defnyddio i drafod pwnc.
Y teclyn PICO
Gall Claf/ Ymyrraeth/ Cymhariaeth / Canlyniad eich helpu i fframio eich cwestiwn ymchwil ac adnabod cysyniadau ar gyfer eich chwiliad meddygol/clinigol.
Os nad yw PICO yn gweithio ar gyfer eich chwiliad yna efallai yr hoffech ystyried fframwaith arall fel:
Neu peidiwch â defnyddio fframwaith a gwahanwch eich pwnc yn gysyniadau chwilio gwahanol.
e.g. Haint a gafwyd yn yr ysbyty
Felly gall eich termau allweddol gynnwys; Haint a gafwyd yn yr ysbyty/Traws-heintiad
Golchi dwylo
Felly efallai bydd eich termau allweddol wrth chwilio yn cynnwys golchi dwylo/hylendid dwylo
Datrysiadau eraill
Felly efallai bydd eich termau allweddol wrth chwilio yn cynnwys rhwbiad alcohol/offer glanweithdra/rhwbiad dwylo/gel dwylo
Lleihau lledaeniad heintiau
Felly gallwch gynnwys eich gostyngiad yn eich chwiliad. Er hynny, ystyriwch yn ofalus gan y gallwch ganfod deunydd perthnasol heb ychwanegu gostyngiad i’ch chwiliad wrth chwilio am erthyglau sy’n cynnwys haint a geir yn yr ysbyty a golchi dwylo a datrysiadau eraill.
Mae Embase yn gronfa ddata fiofeddygol a ffarmacolegol gyda mynediad i fwy na 37 miliwn o gofnodion gan gynnwys erthyglau o fwy nag 8,100 o gyfnodolion a gyhoeddir ledled y byd.
Mae Medline yn darparu gwybodaeth feddygol awdurdodol ar feddygaeth, nyrsio, deintyddiaeth, milfeddygaeth, y system gofal iechyd, gwyddorau cyn-glinigol a llawer mwy. Mae Medline yn defnyddio mynegeio MeSH (Penawdau Pwnc Meddygol) gan ddefnyddio hierarchaeth coeden, is-benawdau a galluoedd 'ffrwydro' i chwilio dyfyniadau o dros 5,400 o gyfnodolion biofeddygol cyfredol.
Mae Scopus yn gronfa ddata crynoadau a chyfeiriadau o lenyddiaeth ymchwil a ffynonellau we ansoddol ym meysydd Meddygaeth, Gwyddorau Cymdeithasol, Gwyddorau Ffisegol a Gwyddorau Bywyd. Mae’r gronfa ddata hefyd yn rhoi gwybodaeth ar ddadansoddi cyfeiriadau ar gyfer erthyglau, awduron a metrigau cyfnodolion.
Gwasanaeth mynegeio dyfyniadau gwyddonol sy'n darparu gwasanaeth cynhwysfawr i chwilio am ddyfyniadau. Mae'n rhoi mynediad i nifer o gronfeydd data sy'n cyfeirnodi ymchwil trawsddisgyblaethol ac yn caniatáu chwiliadau manwl o is-feysydd arbenigol o fewn disgyblaeth academaidd neu wyddonol.
Mae APA PsycINFO yn darparu deunydd ym meysydd gwyddor ymddygiad ac iechyd meddwl. Mae'n cynnwys bron i 4 miliwn o ddyfyniadau o 2500 o deitlau cyfnodolion. Hwn yw'r adnodd mwyaf sy'n arbenigo mewn llenyddiaeth a adolygir gan gymheiriaid ym meysydd gwyddor ymddygiad ac iechyd meddwl. Mae naw deg naw y cant o'r deunydd wedi'i adolygu gan gymheiriaid.
Cronfa ddata gan yr American Psychological Society yw APA PsycARTICLES. Mae’n darparu mynediad at destunau llawn dros 100 o gyfnodolion sy’n ymdrin â gwyddoniaeth ymddygiadol a meysydd cysylltiedig.
Mae'r gronfa ddata hon yn darparu manylion llyfryddiaethol (gan gynnwys crynodebau) ar gyfer erthyglau mewn cyfnodolion, ar amrywiaeth mawr o bynciau, gan gynnwys Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol, Seicoleg, Cymdeithaseg, Economeg, Gwleidyddiaeth, Cysylltiadau Hiliol, Gwaith Cymdeithasol ac Addysg. Mae'n cynnwys cofnodion mwy na 500 o deitlau cyfnodolion a gyhoeddir mewn 16 gwlad wahanol, gan gynnwys y DU a'r UD.
Cyhoeddwr yn y meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg a Meddygaeth sydd â phortffolio helaeth o gyfnodolion mynediad agored sydd wedi’u hadolygu gan gymheiriaid. Mae ein cyfnodolion yn ymdrin â phob maes o fewn bioleg, meddygaeth ac iechyd.
Mae'r Cumulative Index to Nursing & Allied Health Literature (CINAHL) yn gronfa ddata sy'n mynegeio llenyddiaeth sy'n ymwneud â phob agwedd ar nyrsio, bydwreigiaeth ac iechyd perthynol. Mae gan CINAHL gwmpas rhyngwladol a dros 5.2 miliwn o gofnodion o 5000 o gyfnodolion, gan gynnwys testun llawn mwy na 770 o gyfnodolion.
Mae Education Research Complete yn cynnwys amrywiaeth o bynciau a phob lefel addysg o'r blynyddoedd cynnar i addysg uwch. Mae'r cynnwys yn cwmpasu cyfnodolion academaidd, cylchgronau addysgu a phapurau cynhadledd.
Mae Epistemonikos yn gronfa ddata amlieithog, gydweithredol o dystiolaeth ymchwil a deunydd cyfieithu gwybodaeth y cyfeirir ati fel arfer fel “tystiolaeth”, yn unol â’r ystyr a roddir mewn Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Dystiolaeth. Datblygwyd a chynhelir Epistemonikos drwy chwilio cronfeydd data electronig yn systematig ynghyd â ffynonellau eraill am adolygiadau systematig perthnasol a synthesis eang o adolygiadau.
Mae’r casgliad gwyddoniaeth fiofeddygol a gwyddorau bywyd gan HS Talks yn cynnig mynediad uniongyrchol at dros 1,800 o sgyrsiau dull seminar ar-lein sy’n trafod yr ymchwil a’r datblygiadau diweddaraf yn ogystal â’r hanfodion, wedi’u cyflwyno gan rai o’r arbenigwyr gorau ledled y byd – gan gynnwys enillwyr gwobrau Nobel.
Yn rhan o 'r casgliad gwyddoniaeth fiofeddygol a gwyddorau bywyd gan HS Talks sy'n cynnig mynediad uniongyrchol at dros 1,800 o sgyrsiau dull seminar ar-lein sy’n trafod yr ymchwil a’r datblygiadau diweddaraf yn ogystal â’r hanfodion, wedi’u cyflwyno gan rai o’r arbenigwyr gorau ledled y byd – gan gynnwys enillwyr gwobrau Nobel.
Mae’r Health Management Information Consortium yn cynnwys manylion erthyglau a llyfrau ynghylch rheoli gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol, polisi cymdeithasol a gofal cymunedol.
Mae'r gronfa ddata hon yn cynnwys dros 3 miliwn o gyfeiriadau llyfryddiaethol at erthyglau mewn cyfnodolion, ynghyd â llyfrau, adolygiadau a detholiad o benodau sy'n dyddio'n ôl i 1951. Mae'n unigryw oherwydd ei bod yn cwmpasu amrywiaeth eang o ddeunydd rhyngwladol ac yn cynnwys dros 100 o ieithoedd a gwledydd. Caiff mwy na 2,800 o gyfnodolion eu mynegeio'n rheolaidd ac mae tua 7,000 o lyfrau'n cael eu cynnwys bob blwyddyn.
Mae’r gronfa ddata Maternity & Infant Care yn adnodd hanfodol bwysig i academyddion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gofalu am fenywod a babanod. Mae'r gronfa ddata unigryw hon yn cynnwys dros 225,000 o gyfeiriadau llyfryddol gyda chrynodebau o erthyglau o dros 400 o gyfnodolion, llyfrau, canllawiau a llenyddiaeth lwyd ryngwladol iaith Saesneg yn ymwneud â'r proffesiwn bydwreigiaeth, beichiogrwydd, esgor, geni, gofal ôl-enedigol, bwydo babanod a gofal newyddenedigol hyd at ail flwyddyn bywyd babanod, a'r newid i fod yn rhiant. Dechreua’r wybodaeth yn y Gronfa Ddata o ganol y 1980au.
ProQuest Central yw'r adnodd erthyglau cyfnodolion mwyaf ar gael. Mae'r gronfa yn dod â chronfeydd data cyflawn ynghyd o feysydd mawrion megis Busnes, Iechyd a Meddyginiaeth, Ieithoedd a Llenyddiaeth, Gwyddorau Cymdeithasol, Addysg, Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn ogystal â theitlau craidd ym meysydd y Celfyddydau Gweledol a Pherfformio, Hanes, Crefydd, ac Athroniaeth. Mae’r adnodd hefyd yn cynnwys miloedd o bapurau newydd testun llawn o bob rhan o'r byd.
Mae PubMed yn darparu mynediad am ddim i MEDLINE®, cronfa ddata yr NLM® o gyfeiriadau a chrynodebau mynegeio i ofal meddygol, nyrsio, deintyddol, milfeddygol, iechyd ac erthyglau cyfnodolion gwyddorau cyn-glinigol. Ychwanega gyfeiriadau newydd yn ddyddiol.
Defnyddiwch Sage Research Methods i ddysgu am ddulliau ymchwil gwahanol, dod o hyd i astudiaethau achos a defnyddio adnoddau ystadegol.
Cynnwys
Mynediad at gannoedd o e-lyfrau ar ddulliau a methodoleg ymchwil. Hefyd ceir podlediadau a fideos i esbonio rhai cysyniadau.
Adnoddau
Mae nifer o adnoddau i'ch helpu gyda'ch prosiect ymchwil neu'ch traethawd hir:
Bydd treulio ychydig amser yn meddwl am eich strategaeth chwilio yn gymorth mawr wrth ddod o hyd i wybodaeth ar gyfer eich aseiniadau. Dyma elfennau allweddol strategaeth chwilio dda:
Fe welwch ychydig o benodau llyfrau a all eich helpu chi o ran datblygu eich strategaeth chwilio ar y tudalennau hyn.
Mae amrywiaeth eang o wybodaeth efallai yr hoffech ei chynnwys yn eich aseiniadau. Mae'n cynnwys:
Mae dewis yr allweddeiriau cywir yn rhan bwysig iawn o'r broses chwilio. Po fwyaf rydych yn darllen am eich pwnc, mwyaf o allweddeiriau a thermau allweddol byddwch yn dod ar eu traws. Ar ddechrau'ch chwiliad, mae'n bosib mai ychydig yn unig o allweddeiriau fydd gennych. Gyda'r rhain, gallwch gynnal chwiliad cwmpasu (chwiliad eang, cyflym) i gael trosolwg o faint o lenyddiaeth sydd ar gael ar gyfer eich pwnc. Yn seiliedig ar eich canlyniadau, gallwch fireinio'ch allweddeiriau ac ail-wneud eich chwiliad.
Bydd yn bwysig cyfuno'ch allweddeiriau yn y ffordd gywir gan ddefnyddio gweithredwyr Boolean (AND/OR/NOT). Rydym wedi creu ffurflen cofnodi chwiliad i'ch helpu i feddwl am allweddeiriau ar gyfer eich chwiliad.
DS: Bydd rhai o'n cronfeydd data yn cynnwys Penawdau Pwnc/Penawdau Thesawrws hefyd. Mae defnyddio chwiliadau pennawd pwnc yn ffordd ddatblygedig o chwilio am lenyddiaeth a gall ddarparu set ddefnyddiol a phwrpasol o ganlyniadau. Bydd gan bob cronfa ddata dudalen cymorth sy'n cynnig rhagor o fanylion.
Mae gwerthuso'ch ffynonellau yn feirniadol yn elfen hanfodol o unrhyw chwiliad llenyddiaeth, a chwestiwn sy'n cael ei ofyn yn aml yw: Sut rydych yn gwybod bod eich ffynonellau yn:
Mae yna nifer o lyfrau, penodau llyfrau a gwefannau rhagorol a all eich helpu chi o ran gwerthuso'ch ffynonellau yn feirniadol. Fe welwch ychydig ar y tudalennau hyn.