Skip to Main Content

Polisi Cymdeithasol, Cymdeithaseg a Gwyddorau Cymdeithasol: Chwilio am lenyddiaeth

This page is also available in English

Hanfodion Llyfrgell MyUni - Ymchwilio

Mae Hanfodion Llyfrgell MyUni yn cynnwys adran ar ymchwilio. Dilyna’r ddolen isod i ddysgu sut i gynllunio strategaeth chwilio a chynnal dy chwiliad. (Bydd angen i ti fewngofnodi i Canvas i gael y ddolen.)

Dilynwch y ddolen i ymgofrestru ar gyfer Hanfodion Llyfrgell MyUni os nad ydych chi wedi cael mynediad at y cwrs o'r blaen. 

Chwiliadau llenyddiaeth llwyddiannus

Bydd treulio ychydig amser yn meddwl am eich strategaeth chwilio yn gymorth mawr wrth ddod o hyd i wybodaeth ar gyfer eich aseiniadau.  Dyma elfennau allweddol strategaeth chwilio dda:

  • Diffinio'ch allweddeiriau
  • Gosod cyfyngiadau (h.y. dyddiad cyhoeddi, iaith)
  • Ble rydych yn bwriadu chwilio? (cronfeydd data, gwefannau etc)
  • Cofnodi eich canlyniadau

Dyma ychydig o benodau llyfr sy'n gallu eich helpu i ddatblygu'ch strategaeth chwilio:

  • Bell, J., & Waters, S. (2018). Doing your research project: A guide for first-time researchers (7th ed.). London: Open University Press/McGraw-Hill Education. (Pennod 5 - Literature searching)
  • Onwuegbuzie, A., & Frels, R. (2016). 7 steps to a comprehensive literature review : A multimodal & cultural approach. London: Sage. (Pennod 5 - Initiating the search)
  • Robson, C., & McCartan, K. (2016). Real world research (4th ed.). Hoboken: Wiley. (Pennod 3 - Developing your ideas)

Mae amrywiaeth eang o wybodaeth efallai yr hoffech ei chynnwys yn eich aseiniadau.  Mae'n cynnwys:

  • Llyfrau - Rydym yn argymell eich bod yn dechrau gyda rhestr ddarllen eich modiwl yn Canvas i ddod o hyd i destunau allweddol ar gyfer eich pwnc.
  • Erthyglau mewn cyfnodolion - ASSIA yw eich prif gronfa ddata i ddod o hyd i erthyglau mewn cyfnodolion.
  • Llenyddiaeth Lwyd - yn y bôn, popeth nad yw'n cael ei gyhoeddi mewn cyfnodolyn, er enghraifft, trafodion cynadleddau, dogfennau'r Llywodraeth, adroddiadau gan sefydliadau.

Mae dewis yr allweddeiriau cywir yn rhan bwysig iawn o'r broses chwilio. Po fwyaf rydych yn darllen am eich pwnc, mwyaf o allweddeiriau a thermau allweddol byddwch yn dod ar eu traws.  Ar ddechrau'ch chwiliad, mae'n bosib mai ychydig yn unig o allweddeiriau fydd gennych. Gyda'r rhain, gallwch gynnal chwiliad cwmpasu (chwiliad eang, cyflym) i gael trosolwg o faint o lenyddiaeth sydd ar gael ar gyfer eich pwnc.  Yn seiliedig ar eich canlyniadau, gallwch fireinio'ch allweddeiriau ac ail-wneud eich chwiliad.

Bydd yn bwysig cyfuno'ch allweddeiriau yn y ffordd gywir gan ddefnyddio gweithredwyr Boolean (AND/OR/NOT).  Rydym wedi creu ffurflen cofnodi chwiliad i'ch helpu i feddwl am allweddeiriau ar gyfer eich chwiliad. 

DS: Bydd rhai o'n cronfeydd data yn cynnwys Penawdau Pwnc/Penawdau Thesawrws hefyd.  Mae defnyddio chwiliadau pennawd pwnc yn ffordd ddatblygedig o chwilio am lenyddiaeth a gall ddarparu set ddefnyddiol a phwrpasol o ganlyniadau.  Bydd gan bob cronfa ddata dudalen cymorth sy'n cynnig rhagor o fanylion.

Mae gwerthuso'ch ffynonellau yn feirniadol yn elfen hanfodol o unrhyw chwiliad llenyddiaeth, a chwestiwn sy'n cael ei ofyn yn aml yw:  Sut rydych yn gwybod bod eich ffynonellau yn:

  • ddibynadwy
  • digon academaidd
  • diduedd

Mae nifer o lyfrau, penodau llyfrau a gwefannau ardderchog syn gallu eich helpu wrth werthuso'ch ffynonellau'n feirniadol.  Dyma ychydig ohonynt:

  • Bell, J., & Waters, S. (2018). Doing your research project: A guide for first-time researchers (7th ed.). London: Open University Press/McGraw-Hill Education. (Pennod 6 - The review of the literature)
  • Robson, C., & McCartan, K. (2016). Real world research (4th ed.). Hoboken: Wiley. (Pennod 3 - Developing your ideas)