Skip to Main Content

Osteopatheg: Llyfrau ac e-lyfrau

This page is also available in English

Dod o hyd i lyfr gan ddefnyddio iFind, catalog y llyfrgell

Mae'r Llyfrgell a Chanolfan Gwybodaeth ar Gampws Parc Singleton ar 4 llawr ac mae wedi'i rhannu'n adenydd y Dwyrain a'r Gorllewin. Rydych yn mynd i mewn i'r Llyfrgell ar lefel 3 yn Adain y Gorllewin. Mae llyfrau wedi'u trefnu fesul pwnc ar silffoedd y Llyfrgell. Mae gan bob pwnc ei rif galw ei hun, a gallwch weld y rhif galw ar feingefn pob llyfr. 

Edrychwch ar ein canllawiau ar sut i ddefnyddio iFind, catalog y llyfrgell, i chwilio am adnoddau.

Llyfrau newydd

Methu dod o hyd i'r hyn rydych yn chwilio amdano?

iFind, catalog y Llyfrgell

Chwiliad Uwch

Rhifau Galw defnyddiol ar gyfer Osteopatheg

Caiff Rhifau Galw eu defnyddio i helpu i ddod o hyd i lyfrau yn y Llyfrgell. Mae llyfrau wedi'u trefnu fesul pwnc ar silffoedd y Llyfrgell. Mae gan bob pwnc ei rif galw ei hun, e.e. Mae gan Atomeg Ddynol y rhif galw QM23. Mae'r rhif galw ar feingefn pob llyfr. Gwiriwch y cynlluniau llawr o gwmpas y Llyfrgell i ddod o hyd i adrannau penodol. Hefyd ceir mapiau a chynlluniau llawr ar wefan Gwasanaethau Gwybodaeth a Systemau.

Ceir llyfrau ar Osteopatheg yn benodol o dan RZ241-RZ342.  Hefyd ceir nifer o destunau a ddefnyddir gan osteopathiaid o dan RM701–RM725 (therapi â llaw), neu RC 1200 i RC1236 (Gwyddor Chwaraeon). Ceir y rhain oll ar Lefel 1 Adain y Dwyrain. Ceir llyfrau Anatomeg ar y llawr uwchben (Lefel 2).Defnyddiwch iFind, catalog y llyfrgell, i ddod o hyd i'r Rhif Galw ar gyfer teitlau penodol a meysydd pwnc. 

Gallwch ddarllen llawer o e-lyfrau  ar-lein hefyd. Caiff y rhain eu rhestru yn iFind, gan gynnwys dolenni i destunau llawn ar-lein. 

Dyma rai rhifau galw ar gyfer testunau sy'n ymwneud ag Osteopatheg fel man cychwyn.

Testunau â Chyfeiriad Clinigol

Pwnc

Rhif Galw

Lleoliad

Prawf clinigol a chofnodi hanes

RC76

Adain y Dwyrain Lefel 1

Gwyddor Chwaraeon a Meddygaeth

RC1200-RC1236

Adain y Dwyrain Lefel 1

Anafiadau Chwaraeon (adsefydlu ac atal)

RD97

Adain y Dwyrain Lefel 1

Technegau Tapio

RC113

Adain y Dwyrain Lefel 1

Orthopaedeg

RC731

Adain y Dwyrain Lefel 1

Asesiad Orthopaedeg

RD734

Adain y Dwyrain Lefel 1

Trin Orthopaedeg

RD736

Adain y Dwyrain Lefel 1

Merck Manual

RM127

Adain y Dwyrain Lefel 1

Therapi â Llaw

RM701-RM725

Adain y Dwyrain Lefel 1

Trin y Cefn

RZ265

Adain y Dwyrain Lefel 1

Meddygaeth Osteopathig

RZ241-RZ342

Adain y Dwyrain Lefel 1

Mae pedwar llawr yn y Llyfrgell, sydd wedi'i rhannu'n adain y dwyrain ac adain y gorllewin. Rydych yn mynd i mewn i'r Llyfrgell ar lefel 3 yn Adain y Gorllewin. [Sylwer bod y Tŵr yn ardal staff yn unig.] Mae'r llyfrau a'r cyfnodolion i lawr y grisiau ar lefelau 1 a 2. 

Anatomeg, Ffisioleg a Systemau’r Corff

 

Pwnc  

Rhif Galw

Lleoliad

Anatomeg Ddynol

QM23-QM31

Adain y Dwyrain Lefel 2

Cyhyrau Ysgerbydol

QM151

Adain y Dwyrain Lefel 2

 Niwroanatomeg

QM451

Adain y Dwyrain Lefel 2

Anatomeg Arwyneb

QM531

Adain y Dwyrain Lefel 2

Anatomeg y Pen a’r Gwddf

QM535

Adain y Dwyrain Lefel 2

Ffisioleg Ddynol

QP34-QP82

Adain y Dwyrain Lefel 2

Y System Gardiofasgwlaidd

QP101

Adain y Dwyrain Lefel 2

Y System Anadlu

QP121

Adain y Dwyrain Lefel 2

Y System Gyhyrysgerbydol, Biofecaneg a Symudiad Bodau Dynol

QP301-QP303      

Adain y Dwyrain Lefel 2

Niwrowyddoniaeth 

QP356  

Adain y Dwyrain Lefel 2

Mae cofnod catalog pob llyfr yn iFind yn cynnwys dolen “darganfod” i ddangos cynllun llawr yr ardal berthnasol yn y llyfrgell.

Testunau Allweddol

Casgliadau e-lyfrau