Mae amrywiaeth eang o offer ar gael am ddim i'ch helpu gyda dyfynnu a chreu rhestrau o gyfeiriadau, ond does dim un ohonynt yn berffaith. Felly, mae'n bwysig eich bod yn gyfarwydd â hanfodion Cyfeirnodi a'r pwyntiau allweddol i fod yn ymwybodol ohonynt.
Dyma ychydig o offer rydym yn eu hargymell.
Am gyfeirnod cyflym rhowch gynnig ar y botwm dyfynnu yn Google Scholar (cliciwch ar y ddyfynod o dan y linc yn Scholar)
Mae'n bwysig eich bod yn darllen Gweithdrefn Camymddwyn Academaidd Prifysgol Abertawe. Bydd methu cydnabod gwaith rhywun arall (h.y. cyfeirio ato'n gywir mewn papur) yn arwain at ganlyniadau difrifol.
Diffinnir llên-ladrad fel defnyddio gwaith rhywun arall, heb ei gydnabod, gan ei gyflwyno i'w asesu fel petai'n waith y myfyriwr; er enghraifft trwy gopïo neu aralleirio heb gydnabod y ffynhonnell. Llên-ladrad yw hwn boed yn fwriadol neu’n anfwriadol. Os oes angen cyngor ychwanegol ar sut i osgoi llen-lladrad cwbwlhewch y tiwtorial ar-lein Llwyddiant academaidd: Sgiliau ar gyfer dysgu, sgiliau ar gyfer bywyd ar gael trwy Canvas.
Dyma enghraifft o gyfeiriad at lyfr yn arddull APA
Douglas, G., Nicol, F., & Robertson, C. (Eds.). (2013). Macleod's clinical examination (13th ed.). Edinburgh: Churchill Livingstone/Elsevier.
Golygwyd y llyfr hwn gan G. Douglas, F. Nicol, & C. Robertson a chafodd ei gyhoeddi yn 2013. Y teitl yw Macleod's clinical examination a dyma 13ydd argraffiad y llyfr hwn. Y lleoliad cyhoeddi yw Edinburgh a chafodd ei gyhoeddi gan Churchill Livingstone/Elsevier.
Dyma enghraifft o gyfeiriad at erthygl mewn cyfnodolyn yn arddull APA
Espí-López, G. V., López-Bueno, L., Vicente-Herrero, M. T., Martinez-Arnau, F. M., & Monzani, L. (2016). Efficacy of manual therapy on anxiety and depression in patients with tension-type headache. A randomized controlled clinical trial. International Journal of Osteopathic Medicine, 22, 11-20. doi:10.1016/j.ijosm.2016.05.003
Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan G. V. Espí-López, L. López-Bueno, M. T. Vicente-Herrero, F. M. Martinez-Arnau, & L. Monzani a theitl yr erthygl yw Efficacy of manual therapy on anxiety and depression in patients with tension-type headache. A randomized controlled clinical trial. Cafodd ei chyhoeddi yn 2016 mewn cyfnodolyn o'r enw International Journal of Osteopathic Medicine. Fe'i cyhoeddwyd yng nghyfrol 22, ar dudalennau 11 i 20. Bydd gan rai erthyglau Ddynodwr Digidol (doi - Digital Object Identifier) hefyd sy'n debyg i URL sefydlog.