Mae yna amrywiaeth o adnoddau i'ch helpu chi gyda'ch sgiliau astudio, aseiniad ac ysgrifennu academaidd. Isod gallwch ddod o hyd i ystod o adnoddau ar-lein sydd wedi'u cynllunio i'ch cefnogi chi i astudio ar-lein.
Cewch wybodaeth bellach a chymorth yn y Canllaw ar gyfer dysgu o bell.
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys fideos a thiwtorialau a gynlluniwyd gan eich llyfrgellwyr, a byddant yn eich helpu i fanteisio i'r eithaf ar y llyfrgell, ar-lein ac ar y campws. Gallwch chi weithio eich ffordd drwy'r cwrs cyfan drwy glicio ar bob un o'r blychau isod. Pan fyddwch chi wedi cwblhau'r cwrs, bydd gennych chi wybodaeth ymarferol dda am sut i ddefnyddio'r Llyfrgell. Fel arall, gallwch chi ddewis a dethol pa bynciau rydych chi am eu hystyried o'r opsiynau isod. Ni waeth sut rydych chi'n dewis dysgu, gallwch chi bob amser fynd yn ôl a defnyddio'r cwrs hwn pryd bynnag y bydd angen cwrs gloywi arnoch.
Pecyn Goroesi Aseiniad
Gwneud apwyntiad
Gwnewch apwyntiad ar-lein gyda'ch llyfrgellydd pwnc.
Canolfan Llwyddiant Academaidd
O help gyda strwythuro ac ysgrifennu aseiniadau, i gefnogi gyda mathemateg ac ystadegau, gall y Ganolfan Llwyddiant Academaidd eich helpu chi. Cliciwch ar y linc isod i ddarganfod mwy am eu gwasanaethau.