Skip to Main Content

Llenyddiaeth lwyd ar gyfer y gwyddorau meddygol ac iechyd: Hafan

This page is also available in English

Llenyddiaeth lwyd ar gyfer y gwyddorau meddygol ac iechyd

Bydd y canllaw hwn yn darparu ffynonellau llenyddiaeth lwyd o safon ar gyfer y gwyddorau meddygol ac iechyd, ond nid ydynt yn holl-gynhwysfawr.

Mae llenyddiaeth lwyd yn cyfeirio at ddeunydd ymchwil wedi’i gyhoeddi a heb ei gyhoeddi nad yw ar gael yn fasnachol.

Enghreifftiau o lenyddiaeth lywd yw:

  • traethodau ymchwil
  • treialon clinigol
  • cylchlythyron
  • pamffledi
  • adroddiadau
  • ffeiliau ffeithiau, bwletinau
  • dogfennau’r llywodraeth
  • arolygon
  • cyfweliadau
  • papurau o gynadleddau/trafodion cynadleddau
  • gwaith cyfathrebu anffurfiol (e.e. blogiau, podlediadau, e-byst)

Mae llenyddiaeth lwyd yn gallu bod yn ffynhonnell orau ar gyfer yr ymchwil ddiweddaraf i rai testunau. Er hynny, sylwer na chaiff llenyddiaeth lwyd ei hadolygu gan gymheiriaid fel arfer, ac mae’n rhaid ystyried hynny wrth ei gwerthuso.

Rhowch wybod inni os ydych chi’n dod o hyd i ffynhonnell a fyddai’n werth ei chynnwys yn y canllawiau yn eich tyb chi.

Eich Llyfrgellwyr

Holi Llyfrgellydd

Datganiad Hawlfraint

Mae'r gwaith hwn wedi'i drwyddedu o dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0.

Creative Commons Licence