Mae llawer o ffynonellau o lenyddiaeth lwyd. Yr un amlycaf yw’r we.Os ydych chi’n defnyddio’r we er mwyn dod o hyd i lenyddiaeth lwyd, byddem yn eich cynghori i ddefnyddio Google advanced search yn hytrach na blwch chwilio arferol Google neu Google Scholar.Mae’n rhaid i strategaeth chwilio fod yn gadarn, er mwyn iddi gael credadwyedd ac er mwyn i bobl eraill allu ei hail-adrodd.O ganlyniad, Google Advanced yw’r dewis gorau ymhlith gwasanaethau Google, oherwydd er nad ydym yn gwybod sut mae Google yn cynhyrchu canlyniadau, o leiaf fod gan Google advanced search fframwaith / strwythur yn y chwiliad nad yw’n ymddangos yn Google Scholar, er enghraifft.
Ceir ffynonellau eraill isod y byddant yn eich helpu i ddod o hyd i lenyddiaeth lwyd.