Ffynonellau ar gyfer canllawiau a setiau data.
Mae’r rhain yn beiriannau chwilio a fydd yn chwilio am setiau data ymchwil sydd wedi’u cyhoeddi.O’r rhestr, dim ond Elsevier DataSearch fydd yn dod o hyd i ddata sydd wedi’i gyhoeddi fel deunydd atodol.Yn debyg i beiriannau chwilio’r we cyffredinol, nid oes un a fydd yn dod o hyd i’r holl setiau data, felly efallai bydd angen ichi chwilio mewn nifer o ffynonellau.
Caiff data ynghylch presgripsiynau gofal sylfaenol ei ddal gan asiantaeth ad-dalu’r GIG, yr NHSBSA, oddi wrth ffurflenni presgripsiynau’r GIG a ddosberthir gan fferyllwyr cymunedol ledled Lloegr.Gan nad oes angen enwau’r cleifion na’r cyflyrau mae’r meddyginiaethau’n eu trin ar gyfer y broses ad-dalu, nid yw’r wybodaeth hon ar gael ar lefel genedlaethol.Mae’n bosibl amcangyfrif nifer y cleifion sy’n derbyn meddyginiaeth benodol ond bydd cywirdeb yr amcangyfrif yn dibynnu ar yr ystod o batrymau dosio a nifer y mynegiannau clinigol ar gyfer y feddyginiaeth.