Business Source Complete yw cronfa ddata fusnes ysgolheigaidd ddiffiniol y byd. Mae’n darparu y prif gasgliad o gynnwys llyfryddiaethol a thestun llawn. Fel rhan o’r sylw cynhwysfawr a gynigir gan y gronfa ddata hon, ceir mynegai a chrynodebau ar gyfer y cyfnodolion busnes ysgolheigaidd pwysicaf sy’n dyddio yn ôl i 1886. At hyn, darperir cyfeirnodau chwilio a nodwyd ar gyfer dros 1,300 o gyfnodolion.
Mae'r gronfa ddata FAME yn cynnwys gwybodaeth am gwmnïau yn y DU ac Iwerddon. Mae'n cynnwys gwybodaeth am 2.8 miliwn o gwmnïau, gydag adroddiadau manwl am 1.9 miliwn ohonynt. Ar gyfer y 1.9 miliwn o'r cwmnïau mwyaf blaenllaw, mae'r adroddiadau fel rheol yn cynnwys: manylion cyswllt, gan gynnwys rhifau ffôn, cyfeiriadau e-bost a gwefan, ynghyd â'r prif gyfeiriad a chyfeiriadau masnachu, manylion gweithgarwch, cyfrif elw a cholled a 63 eitem mantolen, llif arian a chymarebau, sgôr a gradd credyd, gwybodaeth am warantau a phrisiau (cwmnïau rhestredig yn unig), enwau'r banciau, yr archwilwyr, archwilwyr ac ymgynghorwyr blaenorol, manylion daliadau ac is-gwmnïau (gan gynnwys daliadau ac is-gwmnïau tramor), enwau cyfarwyddwyr presennol a blaenorol a'u cyfeiriadau cartref a dangosyddion ar gyfer cyfranddalwyr, penaethiaid adrannau, cyfranddalwyr, newyddion, ynghyd â mynediad i ddelweddau wedi'u sganio o'r dychweliadau a'r adroddiadau blynyddol diweddaraf.