Mae'r Llyfrgell a Chanolfan Gwybodaeth ar Gampws Parc Singleton ar 4 llawr ac mae wedi'i rhannu'n adenydd y Dwyrain a'r Gorllewin. Rydych yn mynd i mewn i'r Llyfrgell ar lefel 3 yn Adain y Gorllewin. Mae llyfrau wedi'u trefnu fesul pwnc ar silffoedd y Llyfrgell. Mae gan bob pwnc ei rif galw ei hun, a gallwch weld y rhif galw ar feingefn pob llyfr.
Edrychwch ar ein canllawiau ar sut i ddefnyddio iFind, catalog y llyfrgell, i chwilio am adnoddau.
Mae'r pwnc Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn bwnc amlddisgyblaethol ac mae'r llyfrau (a'r chyfnodolion) mewn gwahanol lleoliadau yn y Llyfrgell. Mae'r rhan fwyaf o'r lleoliadau ar Lefel 1 Adain y Dwyrain ac Lefel 1 Adain y Gorllewin yn Llyfrgell Parc Singleton.