Gallwch ddod o hyd i'r holl gyfnodolion rydym yn tanysgrifio iddynt drwy ddefnyddio iFind, catalog y llyfrgell. Os nad ydych yn siŵr sut i ddefnyddio ein cyfnodolion, rhowch gipolwg ar ein canllaw. Y brif ffordd o ddod o hyd i erthyglau am eich pwnc yw defnyddio cronfa ddata lyfryddiaethol. Os nad ydych wedi chwilio cronfeydd data o'r blaen, dechreuwch gydag CINAHL (y brif gronfa ddata ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol).