Bydd yr adran hon yn ddefnyddiol i unrhyw fyfyriwr sydd am ymchwilio ymhellach i ddod o hyd i wybodaeth fanylach, boed hynny ar gyfer traethawd hir israddedig neu radd Meistr, neu draethawd ymchwil PhD.
Ymweld â llyfrgelloedd eraill
Efallai yr hoffech ymweld â llyfrgelloedd prifysgolion eraill:
Mae Prifysgol Abertawe yn aelod o gynllun SCONUL Access. Mae'n caniatáu i staff academaidd, myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, myfyrwyr ôl-raddedig amser llawn a rhan-amser, rhai dysgu o bell neu fyfyrwyr ar leoliad fenthyca o lyfrgelloedd addysg uwch ledled y DU sy'n aelodau'r cynllun. Mae'r canllaw hwn yn esbonio sut gallwch ymuno â chynllun SCONUL Access.
Benthyca gan lyfrgelloedd eraill.
Does dim rhaid i chi ymweld â llyfrgelloedd eraill i fenthyca eitemau nad ydynt ar gael ym Mhrifysgol Abertawe.
Gallwch archebu unrhyw lyfrau neu erthyglau mewn cyfnodolion drwy ein Gwasanaeth Benthyca Rhwng Llyfrgelloedd
Crëwyd EThOS i greu porth mynediad sengl i draethodau ymchwil yn y DU ac mae ganddo rôl bwysig wrth hyrwyddo ymchwil yn y DU i weddill y byd. Mae mwy na 100 o brifysgolion y DU yn ymwneud â'r prosiect a reolir gan y Llyfrgell Brydeinig. Gall gynnig ystod o deitlau sy'n cynyddu drwy'r amser, yn ogystal â thestun llawn traethodau i'w lawrlwytho.
Os yw eitem eisoes yn EThOS, bydd ar gael ar unwaith i'w lawrlwytho i'ch bwrdd gwaith yn rhad ac am ddim; os nad yw, gallwch ddewis prynu copi wedi'i sganio gan EThOS.
Pan fydd gennych rai syniadau ar gyfer pwnc ymchwil - dechreuwch ddarllen. I gael trosolwg cyffredinol nad yw'n dechnegol, dechreuwch gyda llyfrau testun neu erthyglau gwyddoniadurol. Nodwch y canlynol:
Pan fydd gennych syniad gwell o'r pwnc, y derminoleg arbenigol a'r awduron allweddol, gallwch ddechrau chwilio'r llenyddiaeth (a darllen) o ddifrif.
Bydd treulio ychydig amser yn cynllunio yn arbed amser yn y tymor hir ac yn sicrhau bod eich chwiliadau (i) yn cynnwys yr holl erthyglau pwysig; (ii) yn gynhwysfawr; (iii) yn dod o hyd i'r ymchwil mwyaf dibynadwy a'r wybodaeth o'r ansawdd gorau yn unig.
Dyma'r pwyntiau allweddol:
Ar ddechrau'ch chwiliad, mae'n bosib mai ychydig yn unig o allweddeiriau fydd gennych. Gyda'r rhain, gallwch gynnal chwiliad cwmpasu (chwiliad eang, cyflym) i gael trosolwg o faint o lenyddiaeth sydd ar gael ar gyfer eich pwnc. Yn seiliedig ar eich canlyniadau, gallwch fireinio'ch allweddeiriau ac ail-wneud eich chwiliad.
Bydd yn bwysig cyfuno'ch allweddeiriau yn y ffordd gywir gan ddefnyddio gweithredwyr Boolean (AND/OR/NOT). Rydym wedi creu ffurflen cofnodi ymchwil i'ch helpu i feddwl am allweddeiriau ar gyfer eich chwiliad.
DS: Bydd rhai o'n cronfeydd data yn cynnwys Penawdau Pwnc/Penawdau Thesawrws hefyd. Mae defnyddio chwiliadau pennawd pwnc yn ffordd ddatblygedig o chwilio am lenyddiaeth a gall ddarparu set ddefnyddiol a phwrpasol o ganlyniadau. Bydd gan bob cronfa ddata dudalen cymorth sy'n cynnig rhagor o fanylion.
Rhestrir y Cronfeydd Data Llyfryddiaethol sy'n mynegeio llenyddiaeth ar gyfer eich pwnc ar y tab Cronfeydd Data uchod. Rhowch gipolwg ar y cynnwys. Profwch eich termau chwilio i weld pa mor ddefnyddiol yw pob cronfa ddata ar gyfer eich chwiliad penodol. Mae gan bob cronfa ddata ei chryfderau. Bydd rhai ohonynt yn gorgyffwrdd â'i gilydd i raddau.
Dewiswch y rhai mae angen eu chwilio.
Datblygwch eich strategaeth chwilio mewn un gronfa ddata.
Addaswch eich strategaeth chwilio ar gyfer pob cronfa ddata yn ôl yr angen. Mae cronfeydd data yn gweithio ar egwyddorion tebyg, ond gall y rhyngwyneb chwilio fod yn wahanol ac efallai y bydd angen rhai addasiadau. Cofiwch edrych ar yr adrannau cymorth mewn cronfa ddata os ydych yn ansicr, neu cysylltwch â llyfrgellydd am arweiniad.
Gall cadw'r canlyniadau o bob cronfa ddata fod yn rhwydd os yw nifer y canlyniadau'n weddol fach. Fodd bynnag, ar gyfer adolygiad llenyddiaeth manwl, efallai y bydd gennych lawer o ganlyniadau o bob cronfa ddata. Bydd gennych lawer o ganlyniadau dyblyg. Argymhellwn eich bod yn defnyddio meddalwedd rheoli llyfryddiaethol megis EndNote i reoli hyn.
Mae gwerthuso eich ffynonellau yn feirniadol yn elfen hanfodol o unrhyw chwiliad llenyddiaeth. Gofynnwch:
Darllen pellach:
Developing Critical Thinking (Emerald Publishing)
Os ydych yn bwriadu gwneud chwiliad systematig o'r llenyddiaeth, darllenwch y cyngor a ddarperir yn ein canllaw i Adolygiadau Systematig.
Mae Endnote yn becyn meddalwedd sy'n eich helpu i drefnu'ch cyfeiriadau a'ch ffeiliau PDF. Mae'n gweithio gyda Word i fformatio'ch cyfeiriadau heb fod angen i chi boeni am atalnodi etc.
Dyma adnodd rhagorol ar gyfer gwyddonwyr cymdeithasol sydd am ddysgu mwy am fethodoleg ymchwil ar gyfer pob disgyblaeth gwyddor gymdeithasol, gan gynnwys busnes, rheolaeth ac economeg.
Mae tîm Datblygu Sgiliau Ymchwil Prifysgol Abertawe yn darparu hyfforddiant mewn sgiliau ymchwil trosglwyddadwy:
Mae manylion am gyrsiau sydd ar ddod ar eu gwefan.
Dolenni eraill: Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr Vitae
Hyfforddiant ar-lein ar gyfer ymchwilwyr:
o ReStore (y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dulliau Ymchwil) sy’n cynnwys Podlediadau a Fideos.
Lleolir Tîm Cymorth Ymchwil y Llyfrgell ar gampws Parc Singleton. Mae'r llyfrgellwyr Cymorth Ymchwil yn darparu cyngor a chymorth i staff sy'n weithgar ym maes ymchwil, rhai ar ddechrau eu gyrfa ac ymchwilwyr profiadol fel ei gilydd. Cynigir cymorth yn y meysydd canlynol: