Mae'n hawdd dod o hyd i wybodaeth ar y rhyngrwyd, ond mae dod o hyd i wybodaeth ddibynadwy o safon yn fwy anodd nag y byddech yn ei ddisgwyl. Rhowch gipolwg ar ein hawgrymiadau yn yr adran hon ar y ffyrdd mwyaf effeithiol o chwilio ar-lein. Cyn i chi ddefnyddio unrhyw adnodd ar y we yn eich aseiniad, dylech chi ofyn "Ydy'r dudalen we cystal â'r wybodaeth byddech yn ei chael mewn llyfr neu gyfnodolyn academaidd?"
Gall unrhyw un greu tudalennau gwe. Felly, cyn cyfeirio at wefan, gwriwch fod yr wybodaeth yn ddibynadwy ac yn gywir.
Dylech wirio:
Ydych chi'n cael anhawster dod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch ar Google?
Dyma rai awgrymiadau i wella'ch canlyniadau!
Ddim yn dod o hyd i ddigon o adnoddau academaidd drwy Google o hyd?
Rhowch gynnig ar ddefnyddio Google Scholar sy'n chwilio llenyddiaeth ysgolheigaidd yn unig. Gallwch gysylltu Google Scholar â thanysgrifiadau Prifysgol Abertawe. Mae cyfarwyddiadau manwl yn y canllaw isod.
Dyma rai dolenni defnyddiol efallai yr hoffech eu harchwilio ymhellach: