Mae amrywiaeth eang o offer ar gael am ddim i'ch helpu gyda dyfynnu a chreu rhestrau o gyfeiriadau, ond does dim un ohonynt yn berffaith. Felly, mae'n bwysig eich bod yn gyfarwydd â hanfodion Cyfeirnodi a'r pwyntiau allweddol i fod yn ymwybodol ohonynt.
Dyma ychydig o offer rydym yn eu hargymell.
Am gyfeirnod cyflym rhowch gynnig ar y botwm dyfynnu yn Google Scholar (cliciwch ar y ddyfynod o dan y linc yn Scholar)
Mae'n bwysig eich bod yn darllen Gweithdrefn Camymddwyn Academaidd Prifysgol Abertawe. Bydd methu cydnabod gwaith rhywun arall (h.y. cyfeirio ato'n gywir mewn papur) yn arwain at ganlyniadau difrifol.
Diffinnir llên-ladrad fel defnyddio gwaith rhywun arall, heb ei gydnabod, gan ei gyflwyno i'w asesu fel petai'n waith y myfyriwr; er enghraifft trwy gopïo neu aralleirio heb gydnabod y ffynhonnell. Llên-ladrad yw hwn boed yn fwriadol neu’n anfwriadol. Os oes angen cyngor ychwanegol ar sut i osgoi llen-lladrad cwbwlhewch y tiwtorial ar-lein Llwyddiant academaidd: Sgiliau ar gyfer dysgu, sgiliau ar gyfer bywyd ar gael trwy Canvas.
Dyma enghraifft o gyfeiriad at lyfr yn arddull APA
Stuart-Hamilton, I. (Ed.). (2011). An introduction to gerontology. Cambridge: Cambridge University Press.
Golygwyd y llyfr hwn gan I. Stuart-Hamilton a chafodd ei gyhoeddi yn 2011. Y teitl yw An introduction to gerontology. Y lleoliad cyhoeddi yw Cambridge a chafodd ei gyhoeddi gan Cambridge University Press.
Dyma enghraifft o gyfeiriad at erthygl mewn cyfnodolyn yn arddull APA
Musselwhite, C. B., & Shergold, I. (2013). Examining the process of driving cessation in later life. European Journal of Ageing, 10, 89-100. doi:10.1007/s10433-012-0252-6
Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan C. B. Musselwhite & I. Shergold a theitl yr erthygl yw WExamining the process of driving in later life. Cafodd ei chyhoeddi yn 2013 mewn cyfnodolyn o'r enw European Journal of Ageing. Fe'i cyhoeddwyd yng nghyfrol 10 ar dudalennau 89 i 100. Bydd gan rai erthyglau Ddynodwr Gwrthrych Digidol (doi - Digital Object Identifier) hefyd sy'n debyg i URL sefydlog.