Skip to main content
It looks like you're using Internet Explorer 11 or older. This website works best with modern browsers such as the latest versions of Chrome, Firefox, Safari, and Edge. If you continue with this browser, you may see unexpected results.

Gwyddorau Meddygol Cymhwysol, Ffarmacoleg Feddygol, Iechyd Poblogaethau a'r Gwyddorau Meddygol: Hafan

This page is also available in English

Croeso i'ch Canllaw Pwnc

Croeso i ganllaw'r llyfrgell ar gyfer myfyrwyr, staff ac ymchwilwyr. Eich Llyfrgellwyr yn yr Ysgol Feddygaeth ydym ni a gallwn eich cynorthwyo i:

  •          Ddarganfod gwybodaeth ar gyfer eich aseiniadau
  •          Cyfeirnodi
  •          Cael mynediad at gyfnodolion
  •          Meddalwedd llyfryddol megis Endnote
  •          Canfod gwybodaeth arbenigol megis llenyddiaeth feddygol, data ac ystadegau, cyhoeddiadau swyddogol, traethodau ymchwil a thraethodau estynedig    

  Mae croeso i chi e-bostio, sgwrsio'n fyw neu drefnu apwyntiad i siarad â ni.

Eich Llyfrgellwyr

Diweddariad COVID

Mae’r Brifysgol yn cynllunio ar gyfer dychwelyd i’w champysau ac ailagor gwasanaethau gan roi’r flaenoriaeth uchaf i iechyd a diogelwch myfyrwyr a staff. Yn unol â chanllawiau gan Lywodraeth Cymru a rheolwyr y Brifysgol, mae staff y Llyfrgelloedd wedi bod yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn yr Adrannau Iechyd a Diogelwch ac Ystadau i gynllunio proses ddychwelyd ddiogel, fesul cam, a fydd yn ein galluogi i sicrhau pellter cymdeithasol o ddau fetr, mannau hylif diheintio dwylo a chyn lleied o gyswllt â phosib wrth ddarparu gwasanaethau. Edrychwch ar ein tudalen we i dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf.

Dosbarthiadau Sgiliau Llyfrgell Ar-lein

Holi Llyfrgellydd

Tiwtoralau ar-lein Abertawe (SWOTs)

A wnaethoch chi golli eich sesiwn  cyflwyniad i'r Llyfrgell?
A ydych chi wedi anghofio beth wnaethom trafod yn y sesiwn?

Bydd y tiwtorial hon yn rhoi cyngor i chi ar sut i ddefnyddio'ch Llyfrgell, yn edrych ar pynciau fel sut i ddefnyddio'r ffotogopiwr a sut i ddarganfod llyfrau ar gyfer eich cwrs.  Os oes angen rhagor o help arnoch yna defnyddiwch y sgwrs fyw Holi Llyfrgellydd neu ebostiwch.

Newyddion y Llyfrgell

Loading ...