Skip to Main Content

Gwyddorau Meddygol Cymhwysol, Ffarmacoleg Feddygol, Iechyd Poblogaethau a'r Gwyddorau Meddygol: Ymchwil Uwch

This page is also available in English

Camau cyntaf ymchwil uwch

Bydd yr adran hon yn ddefnyddiol i unrhyw fyfyriwr sydd am ymchwilio ymhellach i ddod o hyd i wybodaeth fanylach, boed hynny ar gyfer traethawd hir israddedig neu radd Meistr, neu draethawd ymchwil PhD.

Offer mapio ymchwil

Mae nifer o offer y gallwch eu defnyddio i fapio maes ymchwil; gan ddechrau gydag ychydig o bapurau allweddol neu 'wraidd' ac ehangu eich rhwydwaith. Gall defnyddio'r offer hyn helpu i wella eich dealltwriaeth gyffredinol o'ch maes astudio, ond hefyd eich helpu i ymgysylltu'n fwy beirniadol â'r llenyddiaeth ymchwil.

Y Tu Hwnt i Brifysgol Abertawe

Ymweld â llyfrgelloedd eraill

Efallai yr hoffech ymweld â llyfrgelloedd prifysgolion eraill:

  1. Naill ai er hwylustod neu am eu bod yn agosach at eich tref gartref
  2. Neu am fod casgliadau arbenigol ganddynt.

Mae Prifysgol Abertawe yn aelod o gynllun SCONUL Access.  Mae'n caniatáu i staff academaidd, myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, myfyrwyr ôl-raddedig amser llawn a rhan-amser, rhai dysgu o bell neu fyfyrwyr ar leoliad fenthyca o lyfrgelloedd addysg uwch ledled y DU sy'n aelodau'r cynllun.  

Benthyca gan lyfrgelloedd eraill.

Does dim rhaid i chi ymweld â llyfrgelloedd eraill i fenthyca eitemau nad ydynt ar gael ym Mhrifysgol Abertawe.

Gallwch archebu unrhyw lyfrau neu erthyglau mewn cyfnodolion drwy ein Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau.

Sut i ddod o hyd i draethodau ymchwil

Bydd y cwrs byr canlynol yn esbonio sut i ddod o hyd i draethodau ymchwil. Dylai gymryd 5 i 10 munud yn unig i'w gwblhau. Cliciwch ar y ddelwedd isod i lansio'r cwrs.

EThOS

Chwilio'r llenyddiaeth

Pan fydd gennych rai syniadau ar gyfer pwnc ymchwil - dechreuwch ddarllen. I gael trosolwg cyffredinol nad yw'n dechnegol, dechreuwch gyda llyfrau testun neu erthyglau gwyddoniadurol. Nodwch y canlynol:

  • Meddylwyr ac ymchwilwyr allweddol yn y maes.
  • Isadrannau amrywiol y pwnc.
  • Materion cyfredol a phynciau llosg

Pan fydd gennych syniad gwell o'r pwnc, y derminoleg arbenigol a'r awduron allweddol, gallwch ddechrau chwilio'r llenyddiaeth (a darllen) o ddifrif.

Bydd treulio ychydig amser yn cynllunio yn arbed amser yn y tymor hir ac yn sicrhau bod eich chwiliadau (i) yn cynnwys yr holl erthyglau pwysig; (ii) yn gynhwysfawr; (iii) yn dod o hyd i'r ymchwil mwyaf dibynadwy a'r wybodaeth o'r ansawdd gorau yn unig.

Dyma'r pwyntiau allweddol:

  • Nodi allweddeiriau ar gyfer chwilio
  • Pennu terfynau megis daearyddiaeth (y DU neu wledydd eraill neu ryngwladol) ac amser (pa mor bell yn ôl yr hoffech chwilio - yn ôl i ddigwyddiad penodol, neu 10 mlynedd yn ôl neu fwy).
  • Cyfuno eich termau chwilio yn effeithiol.
  • Ble rydych yn bwriadu chwilio? (cronfeydd data, gwefannau etc)
  • Cofnodi eich canlyniadau
  • Dilyn y cyhoeddiadau newydd ym maes eich ymchwil.

Ar ddechrau'ch chwiliad, mae'n bosib mai ychydig yn unig o allweddeiriau fydd gennych. Gyda'r rhain, gallwch gynnal chwiliad cwmpasu (chwiliad eang, cyflym) i gael trosolwg o faint o lenyddiaeth sydd ar gael ar gyfer eich pwnc.  Yn seiliedig ar eich canlyniadau, gallwch fireinio'ch allweddeiriau ac ail-wneud eich chwiliad.

Bydd yn bwysig cyfuno'ch allweddeiriau yn y ffordd gywir gan ddefnyddio gweithredwyr Boolean (AND/OR/NOT).  Rydym wedi creu ffurflen cofnodi ymchwil i'ch helpu i feddwl am allweddeiriau ar gyfer eich chwiliad.

DS: Bydd rhai o'n cronfeydd data yn cynnwys Penawdau Pwnc/Penawdau Thesawrws hefyd.  Mae defnyddio chwiliadau pennawd pwnc yn ffordd ddatblygedig o chwilio am lenyddiaeth a gall ddarparu set ddefnyddiol a phwrpasol o ganlyniadau.  Bydd gan bob cronfa ddata dudalen cymorth sy'n cynnig rhagor o fanylion.

Rhestrir y Cronfeydd Data Llyfryddiaethol sy'n mynegeio llenyddiaeth ar gyfer eich pwnc ar y tab Cronfeydd Data uchod. Rhowch gipolwg ar y cynnwys. Profwch eich termau chwilio i weld pa mor ddefnyddiol yw pob cronfa ddata ar gyfer eich chwiliad penodol. Mae gan bob cronfa ddata ei chryfderau. Bydd rhai ohonynt yn gorgyffwrdd â'i gilydd i raddau.

Dewiswch y rhai mae angen eu chwilio.

Datblygwch eich strategaeth chwilio mewn un gronfa ddata.

Addaswch eich strategaeth chwilio ar gyfer pob cronfa ddata yn ôl yr angen. Mae cronfeydd data yn gweithio ar egwyddorion tebyg, ond gall y rhyngwyneb chwilio fod yn wahanol ac efallai y bydd angen rhai addasiadau. Cofiwch edrych ar yr adrannau cymorth  mewn cronfa ddata os ydych yn ansicr, neu cysylltwch â llyfrgellydd am arweiniad.

Gall cadw'r canlyniadau o bob cronfa ddata fod yn rhwydd os yw nifer y canlyniadau'n weddol fach. Fodd bynnag, ar gyfer adolygiad llenyddiaeth manwl, efallai y bydd gennych lawer o ganlyniadau o bob cronfa ddata. Bydd gennych lawer o ganlyniadau dyblyg. Argymhellwn eich bod yn defnyddio meddalwedd rheoli llyfryddiaethol megis EndNote i reoli hyn.

Mae gwerthuso eich ffynonellau yn feirniadol yn elfen hanfodol o unrhyw chwiliad llenyddiaeth.  Gofynnwch:

  • Ydy'n ddibynadwy? Pwy yw'r awduron a beth yw eu cymwysterau? Gwiriwch eu Bywgraffiadau a Chyfeiriadau atynt.
  • Ydy'n ddiduedd? Ydy'r cynnwys yn seiliedig ar ymchwil cadarn neu ai barn ydyw?
  • Ydy'n ddigon cyfredol ar gyfer eich pwnc?

Darllen pellach:

Developing Critical Thinking (Emerald Publishing)

Os ydych yn bwriadu gwneud chwiliad systematig o'r llenyddiaeth, darllenwch y cyngor a ddarperir yn ein canllaw i Adolygiadau Systematig

Sut i ddefnyddio EndNote

Mae Endnote yn  becyn meddalwedd sy'n eich helpu i drefnu'ch cyfeiriadau a'ch ffeiliau PDF. Mae'n gweithio gyda Word i fformatio'ch cyfeiriadau heb fod angen i chi boeni am atalnodi etc.

Chwilio am Gynnwys Mynediad Agored

Chwilio Mynediad Agored

Logo for Open Access

Mynediad i gynnwys testun llawn, Mynediad Agored, am ddim ac yn gyfreithlon.

Chwilio CORE

 

SAGE Research Methods

Tîm Datblygu Sgiliau Ymchwil Prifysgol Abertawe

Mae tîm Datblygu Sgiliau Ymchwil Prifysgol Abertawe yn darparu hyfforddiant mewn sgiliau ymchwil trosglwyddadwy:

Mae manylion am gyrsiau sydd ar ddod ar eu gwefan.

Dolenni eraill: 

Cyhoeddi eich ymchwil

Lleolir Tîm Cymorth Ymchwil  y Llyfrgell ar gampws Parc Singleton. Mae'r llyfrgellwyr Cymorth Ymchwil yn darparu cyngor a chymorth i staff sy'n weithgar ym maes ymchwil, rhai ar ddechrau eu gyrfa ac ymchwilwyr profiadol fel ei gilydd. Cynigir cymorth yn y meysydd canlynol:

LibKey Nomad