Os ydych yn mynd ar leoliad i ysbyty GIG, bydd croeso i chi ddefnyddio’r cyfleusterau Llyfrgell yno. Mae yna lyfrau a chyfnodolion i chi bori trwyddynt ac mewn llyfrgelloedd gallech fedru defnyddio’r Rhyngrwyd. Fodd bynnag, cofiwch y bydd gan y Llyfrgellwyr yn y Llyfrgelloedd hyn nifer o gleientiaid i ddelio â nhw o bosib. Os bydd angen help arnoch i chwilio am wybodaeth, benthyciadau rhyng-lyfrgelloedd, neu unrhyw wasanaeth arbennig ynglŷn â’ch gwaith dosbarth, siaradwch â’ch Llyfrgellwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn gyntaf.
Mae'r system ddiwifr, Eduroam ar gael ar y safleoedd canlynol hefyd.