Fel arfer, cyhoeddir cyfnodolion yn rheolaidd, er enghraifft bob wythnos, bob mis neu bob chwarter, ac mae pob rhifyn yn cynnwys casgliad o erthyglau gan awduron gwahanol sydd fel arfer yn trafod yr ymchwil diweddaraf. Gallwch ddod o hyd i'r holl gyfnodolion rydym yn tanysgrifio iddynt drwy ddefnyddio iFind, catalog y llyfrgell.
Bydd yn bwysig iawn defnyddio cyfnodolion yn eich astudiaethau, oherwydd y byddant yn darparu gwybodaeth ddibynadwy a chyfredol, o ansawdd uchel. Trwy ddefnyddioerthyglau mewn aseiniadau bydd yn dangos eich bod wedi darllen yn eang am eich pwnc. Y brif ffordd o ddod o hyd i erthyglau am eich pwnc yw defnyddio cronfa ddata lyfryddiaethol. Yn y bôn, casgliad o wybodaeth neu ddata wedi'i drefnu yw cronfa ddata. Mae Prifysgol Abertawe'n talu am fynediad i gannoedd o gronfeydd data o safon uchel i'ch helpu i ddod o hyd i'r wybodaeth orau a diweddaraf ar gyfer eich ymchwil. Mae'r prif gronfeydd data rydym yn eu hargymell wedi'u rhestru isod ond cofiwch y bydd cynnwys pob cronfa ddata'n wahanol, felly mae'n well defnyddio mwy nag un gronfa ddata i sicrhau eich bod yn cael yr holl wybodaeth mae ei hangen arnoch!
Mae ACM Digital Library yn blatfform ymchwil, darganfod a rhwydweithio sy'n cynnwys casgliad testun llawn o holl gyhoeddiadau ACM, casgliad o gyhoeddiadau testun llawn, wedi'u curadu ac wedi'u cynnal gan gyhoeddwyr penodol a chanllaw i lenyddiaeth gyfrifiadura ACM.
Mae IEEE Xplore yn gronfa ddata testun llawn sy'n rhoi mynediad i holl gyfnodolion a'r rhan fwyaf o bapurau cynhadledd yr IEEE - sy'n ddefnyddiol i fyfyrwyr peirianneg drydanol, cyfrifiadureg ac electroneg.
Mae INSPEC yn ymdrin â ffiseg, electroneg a pheirianneg drydanol, a chyfrifiadura. Mae hefyd yn cynnwys rhywfaint o ddeunydd sy’n berthnasol i nanodechnoleg a deunyddiau. Mae’n cynnwys erthyglau o gyfnodolion a phapurau cynadleddau, yn ogystal â llyfrau, adroddiadau technegol a thraethodau pwysig. Mae’n gronfa ddata sydd wedi’i mynegeio’n dda, sy’n fan cychwyn da ar gyfer ffiseg, cyfrifiadura a pheirianneg drydanol.
Erthyglau o gyfnodolion gan y cyhoeddwr Elsevier. Mae chwiliad uwch yn cynnig yr opsiwn i chi ddewis cyfnodolion tanysgrifedig er mwyn i chi ganfod canlyniadau sydd ar gael i chi ar unwaith yn unig - defnyddiol ar gyfer dechrau ar bwnc.
Mae Scopus yn gronfa ddata crynoadau a chyfeiriadau o lenyddiaeth ymchwil a ffynonellau we ansoddol ym meysydd Meddygaeth, Gwyddorau Cymdeithasol, Gwyddorau Ffisegol a Gwyddorau Bywyd. Mae’r gronfa ddata hefyd yn rhoi gwybodaeth ar ddadansoddi cyfeiriadau ar gyfer erthyglau, awduron a metrigau cyfnodolion.
Gwasanaeth mynegeio dyfyniadau gwyddonol sy'n darparu gwasanaeth cynhwysfawr i chwilio am ddyfyniadau. Mae'n rhoi mynediad i nifer o gronfeydd data sy'n cyfeirnodi ymchwil trawsddisgyblaethol ac yn caniatáu chwiliadau manwl o is-feysydd arbenigol o fewn disgyblaeth academaidd neu wyddonol.
Cwrs byr ar sut i ddod o hyd i erthyglau
Mae'r cwrs byr hwn yn rhoi cyflwyniad i ddod o hyd i erthyglau cyfnodolion. Cliciwch y linc isod i lansio'r cwrs.
Mae Google Scholar yn chwilio am ddeunyddiau ysgolheigaidd. Fodd bynnag, nid yw’n glir beth sy’n cael ei fynegeio na sut felly dylid defnyddio Google Scholar ar y cyd â chronfeydd academaidd eraill am ganlyniadau mwy dibynadwy. Mae’n bwysig nodi bod Google Scholar yn cysylltu â pheth cynnwys tanysgrifenedig ar y campws. Gallwch alluogi’r nodwedd hon ar eich dyfais drwy fynd i Google Menu, Settings, Library links ac yna dewis Prifysgol Abertawe o’r dolenni mynediad ar gyfer y rhestr.
Mae Semantic Scholar yn ddeallusrwydd artiffisial wedi’i seilio ar beiriant chwilio ar gyfer cyhoeddiadau academaidd, gan gynnwys ymchwil a adolygwyd gan gymheiriaid. Mae’n ddefnyddiol i’w ddefnyddio ochr yn ochr â Google Scholar oherwydd bod y canlyniadau mae’n gallu eu cael yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i echdynnu ystyr o lenyddiaeth ymchwil yn amrywio. I ddechrau, ewch i semanticscholar.org a chwilio am bapur, awdur, pwnc neu air allweddol. Gallwch hidlo yn ôl maes, ystod o ddyddiadau, cynhadledd a mwy i fireinio’r canlyniadau chwilio yn ogystal â’u trefnu yn ôl perthnasedd neu ddiweddaredd.
Mynediad i gynnwys testun llawn, Mynediad Agored, am ddim ac yn gyfreithlon.
Gallwch ddefnyddio bron pob un o'n hadnoddau electronig oddi ar y campws gan ddefnyddio'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair ar gyfer y brifysgol. Fodd bynnag, weithiau gall fod yn anodd dod o hyd i'r llwybr cywir i fewngofnodi. Y peth gorau i'w wneud yw chwilio am y cyfnodolyn neu'r gronfa ddata yn iFind a dilyn y ddolen yno. Mae'r canllaw hwn yn cynnwys cipluniau sgrîn sy'n dangos sut mae rhai o'r systemau allweddol yn ymddangos oddi ar y campws.