Gweler isod gyfarwyddyd ac enghreifftiau ynghylch sut i osod cyfeiriad at Twitter yng nghorff eich gwaith ac yn y rhestr gyfeirio ar y diwedd.
Enghraifft:
Mae APA Databases (2019) yn nodi bod...
NEU
...(APA Databases, 2019).
Enw [Enw Twitter]. (Blwyddyn, Mis Dydd). Ugain gair cyntaf y teitl [Disgrifiad o glywelediadau]. Twitter. URL
Enghraifft:
APA Databases [@APA_Databases]. (2019, Medi 5). Help students avoid plagiarism and researchers navigate the publication process. More details available in the 7th edition @APA_Style table [Delwedd ynghlwm] [Trydariad]. Twitter. https://twitter.com/APA_Databases/status/1169644365452578823
DS: Rhowch y ddolen Twitter (gan ddechrau gyda'r arwydd @) mewn cromfachau sgwâr.
Os yw'r trydariad yn cynnwys delwedd, fideo, arolwg barn, neu mân-luniau gyda dolen, nodwch hynny mewn cromfachau ar ôl y teitl: [Delwedd ynghlwm], [Fideo ynghlwm], [mân-luniau gyda dolen ynghlwm]. Cynhwyswch y disgrifiad “[Trydariad]” mewn cromfachau sgwâr ar ôl y teitl.
Defnyddir y fformat a ddefnyddir ar gyfer Twitter hefyd ar gyfer Instagram a TikTok.