Cam 1: Ystyriwch y mathau gwahanol o wybodaeth sydd ar gael i chi
Cam 2: Nodwch yr adnoddau penodol y byddwch yn eu chwilio
Cam 3: Nodwch y termau chwilio allweddol y byddwch yn eu defnyddio
Cam 4: Amlinellwch eich cynlluniau ar gyfer osgoi tuedd
Cam 5: Cynlluniwch sut byddwch yn storio ac yn cadw canlyniadau eich chwiliad
"Mae hidlyddion chwilio yn gasgliadau o dermau chwilio sydd wedi'u cynllunio i ddod o hyd i ddetholiadau o gofnodion. Gellir cynllunio hidlyddion chwilio i ddod o hyd i gofnodion ymchwil gan ddefnyddio cynllun astudio penodol neu ar sail pwnc neu ryw agwedd arall ar y cwestiwn ymchwil.
Gall hidlyddion fod â ffocws penodol iawn neu gallant fod ar lefel uchel. Gellir cynllunio hidlyddion chwilio i uchafu sensitifrwydd (neu adalw) neu i uchafu manylder (a lleihau nifer y cofnodion amherthnasol y bydd angen asesu eu perthnasedd)."
InterTASC Information Specialists’ Sub-Group. (2016). What is the ISSG filter resource? Adalwyd 10 Mehefin, 2016, https://sites.google.com/a/york.ac.uk/issg-search-filters-resource/what-is-the-issg-search-filter-resource
Dechreuwch ystyried eich prif dermau chwilio drwy adnabod y cysyniadau allweddol yn eich cwestiynau ymchwil, yna ystyriwch gyfystyron, termau cysylltiedig, sillafiadau gwahanol, byrfoddau, termau mwy penodol a chyffredinol y byddai awdur neu awduron efallai wedi’u defnyddio i drafod pwnc.
Y teclyn PICO
Gall Claf/ Ymyrraeth/ Cymhariaeth / Canlyniad eich helpu i fframio eich cwestiwn ymchwil ac adnabod cysyniadau ar gyfer eich chwiliad meddygol/clinigol.
e.g. Haint a gafwyd yn yr ysbyty
Felly gall eich termau allweddol gynnwys; Haint a gafwyd yn yr ysbyty/Traws-heintiad
Golchi dwylo
Felly efallai bydd eich termau allweddol wrth chwilio yn cynnwys golchi dwylo/hylendid dwylo
Datrysiadau eraill
Felly efallai bydd eich termau allweddol wrth chwilio yn cynnwys rhwbiad alcohol/offer glanweithdra/rhwbiad dwylo/gel dwylo
Lleihau lledaeniad heintiau
Felly gallwch gynnwys eich gostyngiad yn eich chwiliad. Er hynny, ystyriwch yn ofalus gan y gallwch ganfod deunydd perthnasol heb ychwanegu gostyngiad i’ch chwiliad wrth chwilio am erthyglau sy’n cynnwys haint a geir yn yr ysbyty a golchi dwylo a datrysiadau eraill.
Bydd treulio ychydig amser yn meddwl am eich strategaeth
chwilio yn gymorth mawr wrth ddod o hyd i wybodaeth ar
gyfer eich aseiniadau. Dyma elfennau allweddol strategaeth
chwilio dda:
Mae amrywiaeth eang o wybodaeth efallai yr hoffech
ei chynnwys yn eich aseiniadau.
Mae'n cynnwys:
cyfnodolion.
Llywodraeth, adroddiadau gan
sefydliadau.
Mae dewis yr allweddeiriau cywir yn rhan bwysig iawn o'r broses chwilio. Po fwyaf rydych yn darllen am eich pwnc, mwyaf o allweddeiriau a thermau allweddol byddwch yn dod ar eu traws. Ar ddechrau'ch chwiliad, mae'n bosib mai ychydig yn unig o allweddeiriau fydd gennych. Gyda'r rhain, gallwch gynnal chwiliad cwmpasu (chwiliad eang, cyflym) i gael trosolwg o faint o lenyddiaeth sydd ar gael ar gyfer eich pwnc. Yn seiliedig ar eich canlyniadau, gallwch fireinio'ch allweddeiriau ac ail-wneud eich chwiliad. Ceisiwch ddefnyddio adnodd fel PICO am eich cwestiynau clinigol.
Bydd yn bwysig cyfuno'ch allweddeiriau yn y ffordd gywir gan ddefnyddio gweithredwyr Boolean (AND/OR/NOT). Rydym wedi creu ffurflen cofnodi chwiliad i'ch helpu i feddwl am allweddeiriau ar gyfer eich chwiliad.
DS: Bydd rhai o'n cronfeydd data yn cynnwys Penawdau Pwnc/Penawdau Thesawrws hefyd. Mae defnyddio chwiliadau pennawd pwnc yn ffordd ddatblygedig o chwilio am lenyddiaeth a gall ddarparu set ddefnyddiol a phwrpasol o ganlyniadau. Bydd gan bob cronfa ddata dudalen cymorth sy'n cynnig rhagor o fanylion.