Skip to Main Content

Cadolygiadau Systematig: Proses adolygu systematig

This page is also available in English

Camau yn y Broses Adolygu Systematig

Cam 1: Llunio seiliau eich chwiliad, gan nodi cwestiynau ac ysgrifennu’ch protocol adolygu

Cam 2: Chwiliad Llenyddiaeth

Cam 3: Sgrinio teitlau a chrynodebau

Cam 4: Cyrchu papurau

Cam 5: Dewis papurau testun llawn

Cam 6: Asesu Ansawdd

Cam 7: Dethol data

Cam 8: Dadansoddi a syntheseiddio

Cam 9: Ysgrifennu a golygu

Awgrymiadau ar gyfer gwneud adolygiad systematig

Dyma gwpl o adnoddau da i'ch helpu chi yn eich chwiliad adolygiad systematig:

Choi, A.R., Cheng, D.L., & Greenberg, P.B. (2019). Twelve tips for medical students to conduct a systematic review. Medical Teacher, 41(4), 471-475. 

Conducting a systematic literature search from the Students4Best Evidence blog.

Dickson, R., Cherry, M.G., & Boland, A. (2017). Carrying out a systematic review as a Master's thesis. In A. Boland, M.G. Cherry & R. Dickson. (Eds.), Doing a systematic review: A student's guide (2nd ed., pp.1-20). Sage.

Cofrestru protocol

Dylai protocol eich adolygiad systematig amlinellu methodoleg yr astudiaeth, gan gynnwys: cefndir, crynodeb y llenyddiaeth bresennol, cwestiwn a nodau'r ymchwil, dulliau a strategaeth chwilio, sgrinio a dethol, asesiad ansawdd, dethol data, dadansoddi data a fframwaith amser.

Ar ôl i chi ysgrifennu'ch protocol, dylech ei gofrestru gyda PROSPERO, y gofrestr ryngwladol o adolygiadau systematig. Does dim tâl am gofrestru gyda PROSPERO. Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru'ch adolygiad systematig, ewch i http://www.crd.york.ac.uk/PROSPERO/ 

Cofrestri Adolygiadau Systematig/Protocolau Eraill

  • Campbell Collaboration - sy'n cynhyrchu adolygiadau systematig o effeithiau ymyriadau cymdeithasol
  • Cochrane Collaboration - sefydliad rhyngwladol sy'n cynhyrchu ac yn lledaenu adolygiadau systematig o ymyriadau gofal iechyd

Offer ar gyfer adrodd SRS