"Mae chwilio yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio'r dulliau ar gyfer nodi tystiolaeth i'w chynnwys yn eich adolygiad. Mae adnoddau posib yn cynnwys cronfeydd data llyfryddiaethol, cyfrolau cyfnodolion arbenigol, rhestrau cyfeirio o erthyglau a adalwyd, cofrestru ymchwil, cronfeydd data'r llywodraeth, papurau newydd a/neu arbenigwyr yn eich maes penodol" (Boland et al., 2017, pp. 62-63).
Mae Llyfrgell Cochrane yn gasgliad o gronfeydd data sy’n cynnwys tystiolaeth annibynnol, o ansawdd uchel i helpu i wneud penderfyniadau ym maes iechyd ac mae cynnwys Cronfa Ddata Cochrane o Adolygiadau Systematig.
Casgliad o gronfeydd data yw’r Llyfrgell Cochrane sy’n cynnwys gwahanol fathau o dystiolaeth annibynnol o safon wrth wneud penderfyniadau gofal iechyd yn cynnwys Cronfa Ddata Cochrane o Adolygiadau Systematig.
Mae Embase yn gronfa ddata fiofeddygol a ffarmacolegol gyda mynediad i fwy na 37 miliwn o gofnodion gan gynnwys erthyglau o fwy nag 8,100 o gyfnodolion a gyhoeddir ledled y byd.
Mae Medline yn darparu gwybodaeth feddygol awdurdodol ar feddygaeth, nyrsio, deintyddiaeth, milfeddygaeth, y system gofal iechyd, gwyddorau cyn-glinigol a llawer mwy. Mae Medline yn defnyddio mynegeio MeSH (Penawdau Pwnc Meddygol) gan ddefnyddio hierarchaeth coeden, is-benawdau a galluoedd 'ffrwydro' i chwilio dyfyniadau o dros 5,400 o gyfnodolion biofeddygol cyfredol.
Gwasanaeth mynegeio dyfyniadau gwyddonol sy'n darparu gwasanaeth cynhwysfawr i chwilio am ddyfyniadau. Mae'n rhoi mynediad i nifer o gronfeydd data sy'n cyfeirnodi ymchwil trawsddisgyblaethol ac yn caniatáu chwiliadau manwl o is-feysydd arbenigol o fewn disgyblaeth academaidd neu wyddonol.
Mae PubMed yn darparu mynediad am ddim i MEDLINE®, cronfa ddata yr NLM® o gyfeiriadau a chrynodebau mynegeio i ofal meddygol, nyrsio, deintyddol, milfeddygol, iechyd ac erthyglau cyfnodolion gwyddorau cyn-glinigol. Ychwanega gyfeiriadau newydd yn ddyddiol.