Mae’r llyfrgell yn ceisio cadw copïau o’r llyfrau sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich cwrs fel y nodwyd gan eich adran. Os sylwch fod rhywbeth ar goll, rhowch wybod i ni.
Nid oes gennym ddigon o gopïau ar gyfer un llyfr i bob myfyriwr felly mae’n werth sicrhau eich bod yn gwybod sut i wneud cais am lyfr os yw’r llyfr hwnnw wedi’i fenthyg gan rywun arall - ceir dolen i fideo sy’n dangos sut i wneud hyn yn yr adran ganolog.
Mae Prifysgol Abertawe’n defnyddio system ddosbarthu Lyfrgell y Gyngres i drefnu llyfrau fesul pwnc.
Dod o hyd i lyfrau
Bydd iFind yn eich helpu i ddod o hyd i lyfrau, gwirio’ch cyfrif a dod o hyd i erthyglau ar bwnc. Os oes angen cymorth arnoch, bydd y dolenni isod yn mynd â chi i sesiynau tiwtorial ar Youtube a chanllaw y gallwch ei argraffu.
Mae Megan SUTV yn dangos i chi sut i ddod o hyd i eitemau, defnyddio’r peiriannau benthyg hunanwasanaeth a’r ciosg dychwelyd eitemau yn llyfrgell Prifysgol Abertawe. Gwyliwch ein fideo ‘Using iFind’ i ddysgu sut i ddefnyddio catalog y llyfrgell i chwilio am lyfrau a deunyddiau eraill.
Os yw’r eitem yr ydych ei heisiau allan ar fenthyciad, gallwch osod cais am gopi pan ddychwelir. Gallwch geisio copi drwy eich cyfrif ar iFind, catalog y Llyfrgell.