Cwrs byr ar sut i ddod o hyd i erthyglau
Mae'r cwrs byr hwn yn rhoi cyflwyniad i ddod o hyd i erthyglau cyfnodolion. Cliciwch y linc isod i lansio'r cwrs.
Dod o Hyd i Erthyglau (Strategaethau Chwilio Uwch)
Mae'r cwrs byr canlynol yn rhoi arweiniad ar strategaethau chwilio ymlaen llaw ar gyfer dod o hyd i erthyglau. Dim ond 5-10 munud y dylai ei gymryd i'w gwblhau. Cliciwch ar y linc isod i lansio'r cwrs.
Bydd treulio ychydig amser yn meddwl am eich strategaeth chwilio yn gymorth mawr wrth ddod o hyd i wybodaeth ar gyfer eich aseiniadau. Dyma elfennau allweddol strategaeth chwilio dda:
Mae amrywiaeth eang o wybodaeth efallai yr hoffech ei chynnwys yn eich aseiniadau. Mae'n cynnwys:
Mae dewis yr allweddeiriau cywir yn rhan bwysig iawn o'r broses chwilio. Po fwyaf rydych yn darllen am eich pwnc, mwyaf o allweddeiriau a thermau allweddol byddwch yn dod ar eu traws. Ar ddechrau'ch chwiliad, mae'n bosib mai ychydig yn unig o allweddeiriau fydd gennych. Gyda'r rhain, gallwch gynnal chwiliad cwmpasu (chwiliad eang, cyflym) i gael trosolwg o faint o lenyddiaeth sydd ar gael ar gyfer eich pwnc. Yn seiliedig ar eich canlyniadau, gallwch fireinio'ch allweddeiriau ac ail-wneud eich chwiliad.
Bydd yn bwysig cyfuno'ch allweddeiriau yn y ffordd gywir gan ddefnyddio gweithredwyr Boolean (AND/OR/NOT). Rydym wedi creu ffurflen cofnodi chwiliad i'ch helpu i feddwl am allweddeiriau ar gyfer eich chwiliad.
DS: Bydd rhai o'n cronfeydd data yn cynnwys Penawdau Pwnc/Penawdau Thesawrws hefyd. Mae defnyddio chwiliadau pennawd pwnc yn ffordd ddatblygedig o chwilio am lenyddiaeth a gall ddarparu set ddefnyddiol a phwrpasol o ganlyniadau. Bydd gan bob cronfa ddata dudalen cymorth sy'n cynnig rhagor o fanylion.
Mae gwerthuso'ch ffynonellau yn feirniadol yn elfen hanfodol o unrhyw chwiliad llenyddiaeth, a chwestiwn sy'n cael ei ofyn yn aml yw: Sut rydych yn gwybod bod eich ffynonellau yn:
Gall Google fod yn offeryn defnyddiol at ddiben dod o hyd i wybodaeth ar-lein. Fodd bynnag, gall fod yn anodd nodi'r ffynonellau mwyaf perthnasol a dibynadwy o wybodaeth o restr o filoedd neu filiynau o ganlyniadau. Peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd y rhai gorau ar frig y rhestr! Bydd y strategaethau canlynol yn eich helpu i chwilio'n fwy effeithiol ar Google.
Defnyddiwch eich allweddeiriau a'r gorchymyn site:url i ddod o hyd i ganlyniadau o un wefan neu grŵp o wefannau. Er enghraifft, bydd chwilio am cyfnod sylfaen site:gov.wales yn dod o hyd i wybodaeth am y Cyfnod Sylfaen o wefan Llywodraeth Cymru. Gallech ddefnyddio site:ac:uk i chwilio gwefannau academaidd.
Defnyddiwch y gorchymyn filetype: i gyfyngu'ch chwiliad i fath penodol o ddogfen. Gall hyn fod yn ddefnyddiol os ydych yn chwilio am fath penodol o wybodaeth. Er enghraifft, os ydych yn meddwl bod dogfennau'r llywodraeth yn fwy tebygol o gael eu cyhoeddi ar ffurf PDF, gallech ddefnyddio filetype:pdf i gyfyngu'ch canlyniadau i ffeiliau PDF a'i gwneud yn haws dod o hyd i'r wybodaeth mae ei hangen arnoch. Mae data rhifiadol yn debygol o ymddangos mewn taenlen, felly gallech ddefnyddio filetype:xls i chwilio am ddogfennau Excel.
Mae Google Scholar yn chwilio llenyddiaeth ysgolheigaidd megis erthyglau mewn cyfnodolion a chrynodebau, ond efallai y bydd yn anodd dod o hyd i destun llawn y deunydd yn eich canlyniadau. Bydd cysylltu'ch cyfrif Google Scholar â Phrifysgol Abertawe yn helpu gyda hyn. Ewch i'r eicon gosodiadau ar frig y sgrin.
Wedyn ewch i Library Links i ddod o hyd i Brifysgol Abertawe.
Er bod Google Scholar yn gallu bod yn ddefnyddiol, mae gan iFind a chronfeydd data pwnc eraill, megis Science Direct, rai manteision allweddol:
Y gallu i nodi erthyglau sydd wedi cael eu hadolygu gan gymheiriaid
Mynediad hawdd i grynodeb o'r erthygl
Mynediad hawdd i'r erthygl lawn, os yw ar gael, heb unrhyw gost ychwanegol.
Dyfyniadau a rhestrau o gyfeiriadau ar gyfer pob erthygl - yn ddefnyddiol ar gyfer ehangu'ch deunydd darllen.
Y gallu i chwilio am destunau cyn eu cyhoeddi.
Y gallu i fod yn fwy trefnus - opsiynau i e-bostio, lawrlwytho ac integreiddio â rheolwyr llyfryddiaeth (fel EndNote).