Skip to Main Content

Storfa Sefydliadol: Gwella’r System Gwybodaeth Ymchwil (RISE)

This page is also available in English

RISE Project

Gwella’r System Gwybodaeth Ymchwil (RISE)- 22 Hydref 2019

Ddydd Mawrth 22, bydd y System Gwybodaeth Ymchwil newydd yn cael ei lansio i ddisodli’r system gyfredol. Er mwyn sicrhau bod yr holl gynnwys yn symud i’r system newydd, ni fydd y System Gwybodaeth Ymchwil bresennol ar gael o ddydd Llun 21 Hydref.

Dros y 10 mis diwethaf, mae Tîm y Prosiect wedi ymgysylltu â chydweithwyr ledled y Brifysgol i weld gofynion y system gwybodaeth ymchwil, i adeiladu ei natur ymarferol, i brofi syniadau newydd ac i wneud newidiadau i wella profiad y defnyddiwr. Caiff y system ar ei newydd wedd ei chyflwyno yn y Brifysgol o ddydd Mawrth 22 Hydref. Caiff ei datblygu ymhellach dros yr wythnosau nesaf.
 

Felly beth sydd wedi newid?

Ceir crynodeb o’r newidiadau isod. Gellir trafod manylion pellach  yr holl newidiadau hyn yn unrhyw un o’r sesiynau codi ymwybyddiaeth neu sesiynau galw heibio am hyfforddiant.

Newidiadau

Hen Newydd
Byddai amryw o awduron yn ychwanegu’r un allbwn

Bydd un allbwn yn golygu un cofnod. Gellir ychwanegu awduron  at gofnod, gan ddileu’r angen i ddyblygu ymdrech,

Bydd hyn o fudd i bob defnyddiwr, gan sicrhau bod metaddata cyfoethog ac un fersiwn o’r gwirionedd
Mae adroddiadau’n cymryd amser hir i’w llunio ac, yn aml, caiff data ei reoli y tu allan i RIS o ganlyniad i bryderon am uniondeb data

Bydd dulliau adrodd ychwanegol ar gael i gefnogi asesu parhaus a sicrhau bod gennym ddarlun cywir o’n sefyllfa cyn cyflwyno yn 2020.

Bydd hyn o fudd i bob Uned Asesu, gan ddarparu gwybodaeth yn gyflym a’n galluogi i optimeiddio ein cyflwyniad i’r REF

Nid yw’n bosib rhannu Astudiaethau Achos Effaith na naratifau Amgylchedd yn RIS cyn eu cyflwyno

Drwy ddiweddaru caniatadau RIS gellir gwneud Astudiaethau Achos Effaith a naratifau Amgylchedd yn weladwy i aelodau’r Uned Asesu ar gyfer adborth unwaith ar adeg y cytunir arni

Rheolir y broses asesu mewn sawl ffordd ar draws Colegau/Ysgolion Gall Unedau Asesu ddiffodd y togl neu ei droi ymlaen, p’un a yw sgoriau’n weladwy i staff ai peidio

Mae hyfforddiant ar gael:

Ystafell Hyfforddi 1, Lefel 2, Llyfrgell Parc Singleton:

  • Dydd Mawrth 22/10/2019 1-2
  • Dydd Llun 28/10/19 12.30-1.30

Bydd Tîm Cymorth Ymchwil y Llyfrgell ac aelodau o Dîm Prosiect RISE ar gael i’ch cynorthwyo wrth lanlwytho allbynnau, dogfennau effaith neu gyflwyniadau amgylchedd, gweld eich sgoriau neu archwilio’r allbynnau ar draws y Brifysgol.

 

Beth os oes gennyf broblem?

Ceir rhestr gynhwysfawr o gwestiynau cyffredin yma.     
(Sylwch, byddwn yn ychwanegu at yr adran hon yn fuan wrth i ragor o ganllawiau ddod ar gael yn Gymraeg. Ymddiheuriadau am yr oedi).

Ni fydd y broses o drosglwyddo i’r System Gwybodaeth Ymchwil newydd yn effeithio ar broses yr Adolygiad Datblygiad Proffesiynol.

Croesewir adborth ar y system newydd. Os oes gennych sylwadau neu ymholiadau, e-bostiwch Laura Bailey yn (laura.bailey@abertawe.ac.uk) a/neu Andrew Burrows yn (a.j.burrows@abertawe.ac.uk).