Mae APA PsycINFO yn darparu deunydd ym meysydd gwyddor ymddygiad ac iechyd meddwl. Mae'n cynnwys bron i 4 miliwn o ddyfyniadau o 2500 o deitlau cyfnodolion. Hwn yw'r adnodd mwyaf sy'n arbenigo mewn llenyddiaeth a adolygir gan gymheiriaid ym meysydd gwyddor ymddygiad ac iechyd meddwl. Mae naw deg naw y cant o'r deunydd wedi'i adolygu gan gymheiriaid.
Cronfa ddata gan yr American Psychological Society yw APA PsycARTICLES. Mae’n darparu mynediad at destunau llawn dros 100 o gyfnodolion sy’n ymdrin â gwyddoniaeth ymddygiadol a meysydd cysylltiedig.
Mae’n darparu crynodebau a mynegeion ar gyfer amrywiaeth eang o destunau o gyhoeddiadau seicoleg a seicosomatig blaenllaw. Mae’r rhan fwyaf o’r teitlau ar gael fel testun llawn. Yn ogystal â seicoleg glinigol a chymdeithasol, mae’n darparu deunydd ar ddisgyblaethau cysylltiedig gan gynnwys geneteg, seicoleg busnes ac economeg, cyfathrebu, troseddeg, dibyniaeth, niwroleg, a lles cymdeithasol.
Mae'r gronfa ddata hon yn darparu manylion llyfryddiaethol (gan gynnwys crynodebau) ar gyfer erthyglau mewn cyfnodolion, ar amrywiaeth mawr o bynciau, gan gynnwys Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol, Seicoleg, Cymdeithaseg, Economeg, Gwleidyddiaeth, Cysylltiadau Hiliol, Gwaith Cymdeithasol ac Addysg. Mae'n cynnwys cofnodion mwy na 500 o deitlau cyfnodolion a gyhoeddir mewn 16 gwlad wahanol, gan gynnwys y DU a'r UD.
Business Source Complete yw cronfa ddata fusnes ysgolheigaidd ddiffiniol y byd. Mae’n darparu y prif gasgliad o gynnwys llyfryddiaethol a thestun llawn. Fel rhan o’r sylw cynhwysfawr a gynigir gan y gronfa ddata hon, ceir mynegai a chrynodebau ar gyfer y cyfnodolion busnes ysgolheigaidd pwysicaf sy’n dyddio yn ôl i 1886. At hyn, darperir cyfeirnodau chwilio a nodwyd ar gyfer dros 1,300 o gyfnodolion.
Mae Medline yn darparu gwybodaeth feddygol awdurdodol ar feddygaeth, nyrsio, deintyddiaeth, milfeddygaeth, y system gofal iechyd, gwyddorau cyn-glinigol a llawer mwy. Mae Medline yn defnyddio mynegeio MeSH (Penawdau Pwnc Meddygol) gan ddefnyddio hierarchaeth coeden, is-benawdau a galluoedd 'ffrwydro' i chwilio dyfyniadau o dros 5,400 o gyfnodolion biofeddygol cyfredol.
Defnyddiwch Sage Research Methods i ddysgu am ddulliau ymchwil gwahanol, dod o hyd i astudiaethau achos a defnyddio adnoddau ystadegol.
Cynnwys
Mynediad at gannoedd o e-lyfrau ar ddulliau a methodoleg ymchwil. Hefyd ceir podlediadau a fideos i esbonio rhai cysyniadau.
Adnoddau
Mae nifer o adnoddau i'ch helpu gyda'ch prosiect ymchwil neu'ch traethawd hir:
Gwasanaeth mynegeio dyfyniadau gwyddonol sy'n darparu gwasanaeth cynhwysfawr i chwilio am ddyfyniadau. Mae'n rhoi mynediad i nifer o gronfeydd data sy'n cyfeirnodi ymchwil trawsddisgyblaethol ac yn caniatáu chwiliadau manwl o is-feysydd arbenigol o fewn disgyblaeth academaidd neu wyddonol.
Mae Scopus yn gronfa ddata crynoadau a chyfeiriadau o lenyddiaeth ymchwil a ffynonellau we ansoddol ym meysydd Meddygaeth, Gwyddorau Cymdeithasol, Gwyddorau Ffisegol a Gwyddorau Bywyd. Mae’r gronfa ddata hefyd yn rhoi gwybodaeth ar ddadansoddi cyfeiriadau ar gyfer erthyglau, awduron a metrigau cyfnodolion.
Mae’r gronfa ddata llyfryddiaethau PTSDpubs yn cynnwys llenyddiaeth gyhoeddedig ryngwladol ar straen trawma a chaiff ei chynhyrchu ym mhencadlys y National Center for Post-Traumatic Stress Disorder yn White River Junction, Vermont. Noddir cronfa ddata PTSDpubs gan yr Adran Materion Cyn-filwyr yn Unol Daleithiau America. Ei nod yw cynnwys mynegeion cyfeirio at bob darn o lenyddiaeth ar anhwylder straen wedi trawma ac effeithiau eraill digwyddiadau trawmatig ar iechyd meddwl, a hynny heb gyfyngiadau disgyblaethol, ieithyddol na daearyddol, gan gynnig ymdriniaeth gyfredol ac adolygol.
Mae’r casgliad gwyddoniaeth fiofeddygol a gwyddorau bywyd gan HS Talks yn cynnig mynediad uniongyrchol at dros 1,800 o sgyrsiau dull seminar ar-lein sy’n trafod yr ymchwil a’r datblygiadau diweddaraf yn ogystal â’r hanfodion, wedi’u cyflwyno gan rai o’r arbenigwyr gorau ledled y byd – gan gynnwys enillwyr gwobrau Nobel.
Mae gan Statista ffocws byd-eang ac mae'n rhoi'r ffeithiau a'r data diweddaraf a mwyaf perthnasol am farchnadoedd, defnyddwyr a diwydiannau. Mae'n cynnwys 1.9m o ystadegau, rhagolygon ac astudiaethau ynghylch 80,000 o bynciau a 170 o ddiwydiannau ledled y byd. Mae modd lawrlwytho data'n hawdd i'r rhan fwyaf o fformatau cyffredin.
SPORTDiscus with Full Text yw ffynhonnell fwyaf cynhwysfawr y byd o erthyglau o gyfnodolion ar gyfer chwaraeon a meddyginiaeth chwaraeon, gan gynnig testun llawn ar gyfer 550 o erthyglau.
Casgliad o gronfeydd data yw’r Llyfrgell Cochrane sy’n cynnwys gwahanol fathau o dystiolaeth annibynnol o safon wrth wneud penderfyniadau gofal iechyd yn cynnwys Cronfa Ddata Cochrane o Adolygiadau Systematig.
Mae Cydweithrediad Campbell yn rhwydwaith ymchwil rhyngwladol. Mae’n creu adolygiadau systematig mewn addysg, trosedd a lles cyfiawnder a chymdeithasol ar effeithiau ymyriadau cymdeithasol. Chwiliwch yng nghronfa ddata Llyfrgell Campbell i gael mynediad at deitlau, protocolau.