Skip to Main Content

LLGDC - Llyfrgell Glowyr De Cymru: Casgliadau Ymchwil

This page is also available in English

Casgliadau Ymchwil

Mae gan Brifysgol Abertawe nifer o Gasgliadau Ymchwil diddorol ac amrywiol i helpu eich astudiaethau. Yn Llyfrgell y Glowyr De Cymru, mae'r casgliadau yn archwilio agweddau o hanes gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol Ne Cymru. Ein casgliad mwyaf yw Casgliad Maes Glo De Cymru ond mae yna hefyd nifer o gasgliadau eraill a roddwyd gan academyddion, gwleidyddwyr, sefydliadau a gweithwyr. Maent yn darparu adnoddau gwerthfawr ar draws amrywiad o ddisgyblaethau, yn cynnwys Hanes Diwydiannol, Llenyddiaeth, Gwleidyddiaeth, Seryddiaeth ac Athroniaeth.

Mae Archifau Richard Burton, Casgliad Llyfrau Prin a Llyfrau Storio yn Llyfrgell Singleton Park.

  

Baneri a Phosteri

Nid yw pob rhan o'n casgliadau yn destunol, mae'r arwyddocâd gwleidyddol a diwylliannol o'r celfyddydau gweledol yn amlwg yn ein casgliadau o faneri a phosteri.  

Baneri

Mae yna pum deg saith o faneri yn y casgliadau; y rhan fwyaf ohonynt o borthdai Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn Ne Cymru. Mae'r baneri yn symbolau gweledol sy'n cynrychioli hunaniaeth dosbarth cryf tu fewn cymunedau diwydiannol. Rydym yn benthyg allan y baneri ar gyfer digwyddiadau, cyflwyniadau, arddangosiadau a chyflwyniadau. 

Posteri

Mae ein posteri yn cynnwys deunyddiau o nifer o ffynonellau a sefydliadau amrywiol. Mae posteri o Ryfel Cartref Sbaen, Streic y Glowyr 1984-5, sefydliadau glowyr ac ymgyrchoedd gwleidyddol diweddar - pob un yn dangos y pŵer o ddeunyddiau gweledol. 

 

Casgliad Rhyfel Catref Sbaen

Nid yw'r perthynas rhwng digwyddiadau'r Rhyfel Cartref yn Sbaen (1936-39) a chymunedau diwydiannol yn Ne Cymru wedi cael digon o sylw, yn enwedig y cysylltiadau a ffurfiwyd ar faes y gad a nôl yng Nghymru. Roedd llawer o'r milwyr a gwirfoddolodd yn y Frigâd Ryngwladol yn lowyr, ac roedd nyrsys Cymraeg yn trin y milwyr a anafwyd. Roedd cymunedau diwydiannol yn codi arian ac ymwybyddiaeth am y Rhyfel. Yn Llyfrgell y Glowyr, mae casgliad eang dros nifer o ddeunyddiau (posteri, cyfweliadau, pamffledi) sy'n tynnu sylw at yr arwyddocâd gwleidyddol o'r rhyfel i gymunedau dosbarth-gweithio yn Prydain.

Casgliadau SWCC

Sefydlwyd Llyfrgell y Glowyr De Cymru gan UWS yn 1973 i gadw deunyddiau o Brosiect Hanes y Maes Glo. Pwrpas y prosiect oedd darganfod, casglu a chadw cofnodion i ymwneud ac agweddau gwleidyddol, cymdeithasol, addysgol a diwylliannol o gymunedau glowyr  ar draws y Maes Glo yn Ne Cymru. Mae'r deunyddiau a chasglwyd nawr wedi'i enwi y 'Casgliad Maes Glo De Cymru' ac yn cael ei rhannu rhwng Llyfrgell y Glowyr De Cymru ac Archifau Richard Burton. Mae'r casgliad mewn ffurfiau gwahanol, sy'n cynnwys llyfrau munud, pamffledi, papurau newydd, ffotograffau a chyfweliadau. 

Hanes Llafar 

Dechreuodd y Casgliad Hanes Llafar yn Llyfrgell y Glowyr ar ôl ddau Brosiect Hanes y Maes Glo, a rhedodd rhwng 1971-4 a 1979-82. Casglodd y prosiect amrywiaeth o ffynonellau a oedd yn cynnwys tystiolaeth ar lafar. Cafodd dros 1175 awr o gyfweliadau sain a fideo ei recordio oherwydd y prosiectau yma, a oedd yn dogfennu bywydau pobl arferol. Mae'r cyfweliadau yma yn cynnig cipolwg tu fewn i fywydau personol y bobl yma, a hefyd yn dangos y dylanwadau gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol yn ei chymdeithasau. Rydym wedi ychwanegu cyfweliadau eraill ers y prosiectau gwreiddiol, ar gyfer cyfrannu at ehangder ac amrywiaeth y casgliad.

Mae'r cyfweliadau yn amrywio mewn hyd. Mae rhai yn para oriau ond mae rhai arall tua phedwar deg munud. I adlewyrchu'r amgylchedd dwyieithog o'r maes glo, mae tua 10% o'r cyfweliadau yng Nghymraeg. Mae llawer o ffigurau pwysig yn hanes y maes glo yn ein casgliad, er enghraifft Dai Francis, Emlyn Williams, Phil Weeks a Will Paynter.

Pamffledi

Mae Llyfrgell y Glowyr yn cadw amrywiad enfawr o ddogfennau a phamffledi gwleidyddol, yn cynnwys llenyddiaeth i'w ymwneud ac undebau llafur, y NHS, polisïau pleidiau gwleidyddol, hanes glowyr a hawliau sifil.  

Sefydliadau Glowyr 

Wrth i ddiwydiant lleihau yn Ne Cymru a'r sefydliadau glowyr yn dechrau cau, wnaeth nifer o lyfrgelloedd glowyr bach roi ei chasgliadau i ni. Mae'r eitemau sydd yn y llyfrgelloedd yma yn cynnwys mewnwelediad i'r llenyddiaeth a gafodd ei werthfawrogi gan dynion yn y gwaith a'u cymunedau. Mae Casgliadau'r Sefydliadau yn adlewyrchu'r cymunedau a oeddent yn gwasanaethu, yn aml yn arddangos dylanwad crefyddau gwahanol neu ideolegau gwleidyddol o fewn yr ardal.

Dolenni Defnyddiol

Casgliad Gwyn Thomas

Mae Llyfrgell y Glowyr De Cymru yn cadw casgliad yr awdur toreithiog a ddylanwadol Gwyn Thomas, ysgrifennwr o destunau Eingl-gymreig arloesol The Dark Philosophers a All Things Betray Thee. Mae casgliad personol Thomas yn cynnig cipolwg tu fewn i'w diddordebau llenyddol, sy'n sefydlu cymariaethau ar gyfer ei waith creadigol. Ar wahân i'r amrywiaeth o lyfrau diddorol, gennym hefyd ei het a chot!