This page is also available in English
LibraryPlus - Cefnogaeth ychwanegol i'ch astudiaethau
Rydym wedi cynllunio'n arbennig nifer o wasanaethau, o'r enw LibraryPlus, sy'n gallu gwneud eich bywyd fel myfyriwr yn hawsach.
Pwy sy'n gallu defnyddio LibraryPlus? Pob myfyriwr, yn enwedig:
Ewch i'r wefan LibraryPlus am fwy o wybodaeth
Mae'r Pasbort Llyfrgelloedd Ynghyd yn caniatáu unrhyw aelod presennol o lyfrgelloedd cyhoeddus Abertawe, Castell-nedd, Caerfyrddin a Sir Benfro i gael mynediad benthyca at bob llyfrgell gyhoeddus yn yr ardaloedd yma a hefyd mynediad benthyca at Brifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant, Coleg Abertawe, Coleg Castell-nedd Port Talbot, Coleg Gorseinon a Choleg Sir Benfro. Yn gyntaf, ymwelwch â'ch llyfrgell gyhoeddus agosaf ac ymunwch. Gofynnwch am basbort Llyfrgelloedd Ynghyd a nodwch pa lyfrgell addysg uwch hoffwch ymuno a. Ewch a'r pasbort i'r llyfrgell ac yna a bydden yn eich cofrestri fel defnyddiwr. Mae'r cynllun yma dan reolaeth SWAMP (South West And Mid Wales Partnership) a ariennir gan MALD (Amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd Cymru).
Polisi Llyfrgell y Glowyr De Cymru yw Agor i Bawb, gallwch ddefnyddio'r llyfrgell am ddefnydd cyfeirnod yn unig - mae yna groeso cynnes i bawb.
Mae Llyfrgell y Glowyr yn darparu Bocsys Llyfrau i gefnogi myfyrwyr ar y radd ran-amser. Mae’r llyfrau yn dod o’r rhestri darllen a ddarparwyd gan y tiwtoriaid, gyda deunydd ychwanegol os oes angen. Rydym yn anfon y bocsys i leoliad y cwrs ac mae nhw’n aros yna tan ddiwedd y flwyddyn academaidd. Gall myfyrwyr defnyddio’r bocs llyfrau i atodi deunydd eraill. Mae hyn wedi profi’n angenrheidiol yn y gorffennol, yn enwedig gyda myfyrwyr bellter. Mae ‘na rhai canllawiau i sicrhau bod siawns i bob myfyriwr defnyddio’r llyfrau:
Cysylltwch a Llyfrgell y Glowyr os oes unrhyw cwestiynau gennych ynglyn a'r Bocsys Llyfrau. |