Skip to Main Content

Cyhoeddi ac ymchwilio effaith: Cael ei gyhoeddi

This page is also available in English

Cyflwyniad

Mae'r adran hon o'n canllaw yn edrych ar gael ei gyhoeddi

Dewis Cyfnodolyn

Bydd yn rhaid i chi ystyried:

  • Y ffactor effaith a ffyn mesur cyfnodolion eraill os yw'r rhain yn berthnasol i'ch pwnc.
  • Eich gwybodaeth eich hun am gyfnodolion yn eich maes ac awgrymiadau gan gydweithwyr profiadol.
  • Gwiriwch gwmpas a gofynion y cyfnodolyn i sicrhau eu bod yn gweddu'r hyn rydych chi'n ysgrifennu amdano.
  • Pa gyfnodolion ydy eich ymchwil yn cyfeirio atynt.
  • A yw'r cyfnodolyn wedi'i fynegeio gan wasanaethau mynegeio mawr ar gyfer eich pwnc megis Web of Science, Scopus a chronfeydd data pwnc-benodol?
  • Bydd cyfnodolyn sydd wedi'i fynegeio mewn mwy o leoedd yn cyrraedd cynulleidfa ehangach.
  • Mae rhai gwasanaethau sydd wedi'u dylunio i'ch helpu i ddewis cyfnodolyn, Elsevier Journal FinderJournal Selector.
  • A fydd y cyfnodolyn yn caniatáu i chi gydymffurfio â'r gofynion ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil nesaf?

Derbyn ISBN Prifysgol Abertawe

Os nad ydych chi'n derbyn cyhoeddwr arferol ac mae angen ISBN arnoch ar gyfer eich cyhoeddiad gall y Gwasanaethau Gwybodaeth a Systemau ddarparu un. Gall hyn ddigwydd, er enghraifft, os ydych yn cyhoeddi trafodaethau cynhadledd neu adroddiad.

Mae ISBN o fantais os ydych chi'n awyddus i gyhoeddi eich gwaith oherwydd caiff ei gofrestru yn genedlaethol a bydd manylion ar gael i werthwyr llyfrau. Mae'n rhif cynnyrch unigryw sy'n ffordd o adnabod eich cyhoeddiad. 

Pan fydd eich cyhoeddiad yn barod ar gyfer yr ISBN llenwch y ffurflen gais hon am ISBN. Y meysydd sydd wedi'u nodi â seren yw'r rhai hanfodol. Mae'r derminoleg a ddefnyddiwyd yn gweddu gofynion y gronfa ddata ISBN a ddefnyddir gan y diwydiant llyfrau.  Anfonwch y ffurflen sydd wedi'i llenwi i LibraryResearchSupport@abertawe.ac.uk. Byddwch chi'n derbyn ISBN a byddwn yn cofrestru eich cyhoeddiad ar y gronfa ddata ISBN genedlaethol. Bydd y llyfrgell yn talu'r gost.

Byddwch chi'n parhau i fod yn gyfrifol am eich cyhoeddiad ac am ymdrin â'r Adneuo Cyfreithiol http://www.bl.uk/aboutus/legaldeposit/  Sylwer bydd gofyniad cyfreithiol arnoch i adneuo unrhyw gyhoeddiad a gyhoeddir yn y DU gyda llyfrgelloedd adnau cyfreithiol os oes ganddo ISBN ai peidio.

Dod o hyd i gyhoeddwr llyfrau

Mae amrywiaeth o ddewisiadau ar gael, o gymdeithasau dysgedig a chyhoeddwyr mynediad agored i gyhoeddwyr masnachol. Dyma rai pethau i’w hystyried:

  • Pwy sy'n cyhoeddi'r llyfrau rydych chi'n eu defnyddio’r amlaf?
  • A yw'n cynnig adolygiad gan gydweithwyr a/neu a oes ganddo enw da? Gall cydweithwyr fod yn ffynhonnell dda o wybodaeth am gyhoeddwyr.
  • Ystyriwch at bwy y byddwch yn anelu eich llyfr ac a oes marchnad amdano? A oes gan y cyhoeddwr ddylanwad rhyngwladol?
  • Astudiwch wefan y cyhoeddwr i ddarganfod ei weithdrefn ac unrhyw gyngor sydd ganddo i'w gynnig i awduron. Bydd modd dod o hyd i hyn yn hawdd trwy chwilio'r we.  Os oes angen cyfeiriad cyswllt arnoch er mwyn cysylltu â chyhoeddwr, mae modd dod o hyd i nifer o gyhoeddwyr yn yr Academic Publishing Directory.
  • Byddwch yn ymwybodol y bydd rhai cyhoeddwyr yn derbyn llawysgrif os mai nhw yw'r unig gyhoeddwr sy'n cael ei ystyried.
  • Os oes cyfres lyfrau yn eich maes pwnc, dylech ystyried gysylltu â'r golygydd i ofyn a fyddai ganddo ddiddordeb yn eich gwaith - fel arfer mae gan y rhain gynulleidfa barod.
  • Os ydych chi'n mynychu cynhadledd lle bydd cyhoeddwyr yn arddangos, ewch â chrynodeb o'ch llyfr a chopi o’ch CV fel eich bod yn barod i'w drafod.  

Rheoli eich hawlfraint

Fel arfer, pan fyddwch chi'n cyhoeddi llyfr neu erthygl newyddiadurol rydych chi'n trosglwyddo hawlfraint i'r cyhoeddwr. Mae rhai yn caniatáu i chi gadw rhai hawliau felly mae'n werth ystyried hyn. Gall hyn weithiau gael ei drafod. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar y llyfrgell hawlfraint.

 

(check)

Datganiad Hawlfraint

Mae'r gwaith hwn wedi'i drwyddedu o dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0.

Creative Commons Licence