Mae’n bosib y bydd papurau am addysgu a dysgu yn cael eu cyhoeddi mewn cyfnodolion addysg (uwch) neu gyfnodolion sy’n sôn am bynciau penodol. Mae’n bosib y bydd ymchwil o un maes ymchwil yn drosglwyddadwy i faes gwahanol felly bydd defnyddio Google Scholar yn sicrhau eich bod yn chwilio ystod eang o deitlau.
Mae mentrau Ymchwil Agored yn amrywio rhwng gwledydd a chyfandiroedd, a cheir digon o gronfeydd data sy'n cynnwys ymchwil o America Ladin ac Affrica sy'n cael eu tanddefnyddio oherwydd goruchafiaeth Eingl-Americanaidd a Gorllewin Ewrop. Gall chwilio'r cronfeydd data hyn a defnyddio'r ymchwil y byddwch yn ei darganfod ddod â safbwyntiau gwerthfawr i'ch ymarfer addysgu a'ch ymchwil.
Argymhellwn ddefnyddio meddalwedd rheoli cyfeirnodau i drefnu, didoli a cyfeirnodi wrth ysgrifennu.
Yn Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe, rydym yn cefnogi Endnote, y fersiwn ar-lein a'r fersiwn bwrdd gwaith.
Mae'r ddwy fersiwn yn eich helpu chi i gadw a threfnu eich cyfeirnodau a'u fformatio nhw yn Word.
Defnyddiwch Sage Research Methods i ddysgu am ddulliau ymchwil gwahanol, dod o hyd i astudiaethau achos a defnyddio adnoddau ystadegol.
Cynnwys
Mynediad at gannoedd o e-lyfrau ar ddulliau a methodoleg ymchwil. Hefyd ceir podlediadau a fideos i esbonio rhai cysyniadau.
Adnoddau
Mae nifer o adnoddau i'ch helpu gyda'ch prosiect ymchwil neu'ch traethawd hir: