Mae'r Cumulative Index to Nursing & Allied Health Literature (CINAHL) yn gronfa ddata sy'n mynegeio llenyddiaeth sy'n ymwneud â phob agwedd ar nyrsio, bydwreigiaeth ac iechyd perthynol. Mae gan CINAHL gwmpas rhyngwladol a dros 5.2 miliwn o gofnodion o 5000 o gyfnodolion, gan gynnwys testun llawn mwy na 770 o gyfnodolion.
Mae Medline yn darparu gwybodaeth feddygol awdurdodol ar feddygaeth, nyrsio, deintyddiaeth, milfeddygaeth, y system gofal iechyd, gwyddorau cyn-glinigol a llawer mwy. Mae Medline yn defnyddio mynegeio MeSH (Penawdau Pwnc Meddygol) gan ddefnyddio hierarchaeth coeden, is-benawdau a galluoedd 'ffrwydro' i chwilio dyfyniadau o dros 5,400 o gyfnodolion biofeddygol cyfredol.
Mae Scopus yn gronfa ddata crynoadau a chyfeiriadau o lenyddiaeth ymchwil a ffynonellau we ansoddol ym meysydd Meddygaeth, Gwyddorau Cymdeithasol, Gwyddorau Ffisegol a Gwyddorau Bywyd. Mae’r gronfa ddata hefyd yn rhoi gwybodaeth ar ddadansoddi cyfeiriadau ar gyfer erthyglau, awduron a metrigau cyfnodolion.
Gwasanaeth mynegeio dyfyniadau gwyddonol sy'n darparu gwasanaeth cynhwysfawr i chwilio am ddyfyniadau. Mae'n rhoi mynediad i nifer o gronfeydd data sy'n cyfeirnodi ymchwil trawsddisgyblaethol ac yn caniatáu chwiliadau manwl o is-feysydd arbenigol o fewn disgyblaeth academaidd neu wyddonol.
Mae APA PsycINFO yn darparu deunydd ym meysydd gwyddor ymddygiad ac iechyd meddwl. Mae'n cynnwys bron i 4 miliwn o ddyfyniadau o 2500 o deitlau cyfnodolion. Hwn yw'r adnodd mwyaf sy'n arbenigo mewn llenyddiaeth a adolygir gan gymheiriaid ym meysydd gwyddor ymddygiad ac iechyd meddwl. Mae naw deg naw y cant o'r deunydd wedi'i adolygu gan gymheiriaid.
Business Source Complete yw cronfa ddata fusnes ysgolheigaidd ddiffiniol y byd. Mae’n darparu y prif gasgliad o gynnwys llyfryddiaethol a thestun llawn. Fel rhan o’r sylw cynhwysfawr a gynigir gan y gronfa ddata hon, ceir mynegai a chrynodebau ar gyfer y cyfnodolion busnes ysgolheigaidd pwysicaf sy’n dyddio yn ôl i 1886. At hyn, darperir cyfeirnodau chwilio a nodwyd ar gyfer dros 1,300 o gyfnodolion.
Yn rhan o 'r casgliad gwyddoniaeth fiofeddygol a gwyddorau bywyd gan HS Talks sy'n cynnig mynediad uniongyrchol at dros 1,800 o sgyrsiau dull seminar ar-lein sy’n trafod yr ymchwil a’r datblygiadau diweddaraf yn ogystal â’r hanfodion, wedi’u cyflwyno gan rai o’r arbenigwyr gorau ledled y byd – gan gynnwys enillwyr gwobrau Nobel.
ProQuest Central yw'r adnodd erthyglau cyfnodolion mwyaf ar gael. Mae'r gronfa yn dod â chronfeydd data cyflawn ynghyd o feysydd mawrion megis Busnes, Iechyd a Meddyginiaeth, Ieithoedd a Llenyddiaeth, Gwyddorau Cymdeithasol, Addysg, Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn ogystal â theitlau craidd ym meysydd y Celfyddydau Gweledol a Pherfformio, Hanes, Crefydd, ac Athroniaeth. Mae’r adnodd hefyd yn cynnwys miloedd o bapurau newydd testun llawn o bob rhan o'r byd.
Mae PubMed yn darparu mynediad am ddim i MEDLINE®, cronfa ddata yr NLM® o gyfeiriadau a chrynodebau mynegeio i ofal meddygol, nyrsio, deintyddol, milfeddygol, iechyd ac erthyglau cyfnodolion gwyddorau cyn-glinigol. Ychwanega gyfeiriadau newydd yn ddyddiol.
Defnyddiwch Sage Research Methods i ddysgu am ddulliau ymchwil gwahanol, dod o hyd i astudiaethau achos a defnyddio adnoddau ystadegol.
Cynnwys
Mynediad at gannoedd o e-lyfrau ar ddulliau a methodoleg ymchwil. Hefyd ceir podlediadau a fideos i esbonio rhai cysyniadau.
Adnoddau
Mae nifer o adnoddau i'ch helpu gyda'ch prosiect ymchwil neu'ch traethawd hir:
SPORTDiscus with Full Text yw ffynhonnell fwyaf cynhwysfawr y byd o erthyglau o gyfnodolion ar gyfer chwaraeon a meddyginiaeth chwaraeon, gan gynnig testun llawn ar gyfer 550 o erthyglau.
Mae Cydweithrediad Campbell yn rhwydwaith ymchwil rhyngwladol. Mae’n creu adolygiadau systematig mewn addysg, trosedd a lles cyfiawnder a chymdeithasol ar effeithiau ymyriadau cymdeithasol. Chwiliwch yng nghronfa ddata Llyfrgell Campbell i gael mynediad at deitlau, protocolau.
Casgliad o gronfeydd data yw’r Llyfrgell Cochrane sy’n cynnwys gwahanol fathau o dystiolaeth annibynnol o safon wrth wneud penderfyniadau gofal iechyd yn cynnwys Cronfa Ddata Cochrane o Adolygiadau Systematig.
Mae Llyfrgell Cochrane yn gasgliad o gronfeydd data sy’n cynnwys tystiolaeth annibynnol, o ansawdd uchel i helpu i wneud penderfyniadau ym maes iechyd ac mae cynnwys Cronfa Ddata Cochrane o Adolygiadau Systematig.
Peiriant chwilio clinigol yw Trip ac mae wedi’i gynllunio i ganiatáu i ddefnyddwyr ddod o hyd i dystiolaeth ar ffurf ymchwil o safon uchel yn gyflym ac yn rhwydd, a’i defnyddio i gefnogi eu hymarfer ac/neu eu gofal.