Skip to Main Content

Hawlfraint: Pecyn Cymorth Hawlfraint

This page is also available in English

Beth gallaf ei gopïo?

Beth sy'n cael ei gynnwys yn y diffiniad o gopïo?

  • Mae copïo'n cynnwys sganio neu lungopïo deunydd at ddibenion astudio preifat. Mae hyn yn cynnwys defnyddio testun, ffotograffau, lluniau, mapiau, recordiadau, cerddoriaeth, cronfeydd data ayb.
  • Ailddefnyddio unrhyw ddeunydd sy'n destun hawlfraint mewn traethawd, aseiniad, traethawd hir, traethawd ymchwil, sleid PowerPoint neu nodiadau i'w dosbarthu.

Mae deddfwriaeth hawlfraint y DU yn cyfyngu ar y deunydd y gallwch ei atgynhyrchu'n gyfreithlon

Yn gyffredinol, gallwch gopïo gwaith dan yr amgylchiadau canlynol yn unig:

  • Mae'r hawlfraint wedi darfod neu wedi cael ei hepgor
  • Rydych yn copïo deunydd gan ddibynnu ar un o'r eithriadau a ganiateir yn y ddeddfwriaeth. Darllenwch yr adran 'Copïo at ddibenion astudio preifat neu Ymchwil' a 'delio'n deg' am y cyfyngiadau ar y deunydd y cewch ei gopïo'n gyfreithlon
  • Rydych yn gwneud copi o dan delerau trwydded sy'n cael ei dal gan y Brifysgol
  • Rydych wedi cael caniatâd deiliad yr hawlfraint
  • Rydych yn gallu defnyddio trwydded agored, megis Creative Commons

Gwarchod eich Hawlfraint

Mae deddfwriaeth hawlfraint yn gwarchod eich gwaith ac yn atal pobl eraill rhag ei ddefnyddio heb ganiatâd. Mae hawlfraint yn atal eraill rhag copïo, dosbarthu, rhentu neu fenthyca copïau o'ch gwaith. Rhwystrir perfformio, dangos neu chwarae gwaith yn gyhoeddus, neu wneud addasiadau iddo, hefyd.

Mae gan awdur gwaith hawl foesol i gael ei adnabod fel crëwr y gwaith ac mae ganddo/ganddi'r hawl i wrthwynebu defnydd difrïol. Mae hawliau economaidd yn rhoi hawliau unigryw i'r awdur i reoli ei waith a manteisio arno tra bydd yn berchen arno.

Mae hawlfraint yn hawl awtomatig, felly nid oes rhaid i chi gofrestru perchnogaeth. Gallwch ddewis ychwanegu'r symbol © at eich gwaith, ynghyd â'ch enw a blwyddyn creu'r gwaith, ond mae hyn yn ddewisol. Os ydych yn bwriadu cyhoeddi'ch gwaith eich hun, ewch i'r tab Gwybodaeth i Ymchwilwyr am ragor o wybodaeth.

Copïau Hygyrch / Eithriadau ar gyfer Anabledd

Caniateir i unigolion wneud un copi o waith sy'n destun hawlfraint, mewn fformat hygyrch, at ddefnydd personol unigolyn anabl, os nad oes copi hygyrch o'r gwaith ar gael yn fasnachol. Felly, ar yr amod bod y sawl sy'n gwneud y copi wedi cael y gwaith gwreiddiol yn gyfreithlon, gall greu fersiwn wedi'i haddasu.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan Ganolfan Drawsgrifio Prifysgol Abertawe.

Adrannau 31A a 31BB y Ddeddf Hawlfraint Dyluniadau a Phatentau

Defnyddio Mapiau

Ar hyn o bryd, mae Prifysgol Abertawe'n tanysgrifio i'r adnoddau canlynol y mae pob un ohonynt yn caniatáu defnyddio mapiau a data'r Arolwg Ordnans at ddibenion addysgol: Gwasanaeth gwe Digimap, Historic Digimap ac Environment Digimap. Mae Cytundeb Trwydded Casgliadau Digimap yn caniatáu i unigolyn achrededig gadw rhannau cyfyngedig o fapiau'n electronig, neu eu hargraffu, o dan amodau a thelerau ei drwydded.

Gwarchodir mapiau'r Arolwg Ordnans am 50 o flynyddoedd. Maent fel arfer yn caniatáu copïo rhan o fap sy'n cyfateb yn fras i faint A4 heb ofyn am ganiatâd. Caiff mapiau o ffynonellau eraill eu hystyried yn waith artistig, felly bydd eithriadau 'delio'n deg' i hawlfraint yn berthnasol.

Mae Google Maps, Google Earth a Street View yn caniatáu arnodi eu mapiau, gan gynnwys caniatâd i'w defnyddio mewn erthyglau cyfnodolion, adroddiadau, cyflwyniadau, cylchgronau, ayb, ar yr amod eich bod yn defnyddio'r offer mapio at ddiben nad yw'n fasnachol a'ch bod yn cydnabod y ffynhonnell yn briodol.

Darllenwch yr amodau a thelerau'n ofalus cyn atgynhyrchu cynnwys unrhyw fap.

Am faint mae hawlfraint yn para?

  • Gwaith llenyddol, dramatig, cerddorol neu artistig gwreiddiol: bywyd yr awdur + 70 o flynyddoedd o ddiwedd y flwyddyn pan fu farw'r crëwr. Os nad yw'r awdur yn hysbys neu wedi'i gyhoeddi, mae hawlfraint yn dod i ben ar ddiwedd 2039 neu 70 mlynedd ar ôl marwolaeth yr awdur, pa un bynnag sydd hwyaf. Pan fydd hawlfraint gwaith wedi dod i ben, ystyrir ei fod yn ddeunydd cyhoeddus.
  • Recordiadau sain: 50 mlynedd o ddiwedd y blwyddyn pan grëwyd y recordiad; fodd bynnag, mae hyn yn ymestyn i 70 mlynedd os yw’r gwaith ar gael yn gyhoeddus neu os cafodd ei gyhoeddi
  • Darllediadau: 50 mlynedd o ddiwedd y flwyddyn pan ddarlledwyd y gwaith gyntaf
  • Ffilmiau: 70 mlynedd o ddiwedd y flwyddyn pan fu farw'r un olaf o'r canlynol - prif gyfarwyddwr, awdur y sgript, awdur y dialog neu gyfansoddwr y gerddoriaeth a ddefnyddiwyd yn y ffilm.
  • Cronfeydd data: 15 mlynedd o ddiwedd y flwyddyn pan gwblhawyd cronfa ddata. Mae diweddariadau'n caniatáu i'r cyfnod hawlfraint ailddechrau.
  • Hawlfraint y Goron: 125 o flynyddoedd o ddiwedd y flwyddyn pan grëwyd y gwaith, neu 50 mlynedd o'r cyhoeddiad masnachol cyntaf. Mae'r Drwydded Llywodraeth Agored yn caniatáu i wybodaeth y sector cyhoeddus gael ei hailddefnyddio'n ddigyfyngiad ag ychydig o amodau
  • Hawlfraint Seneddol: 50 mlynedd o ddiwedd y flwyddyn  pan grëwyd y deunydd. Mae'r Drwydded Senedd Agored yn caniatáu i chi ailddefnyddio cynnwys yn hyblyg ag ychydig o amodau. Yn ogystal â deunydd y mae'r Senedd yn berchen ar yr hawlfraint ynddo neu'r hawl cronfa ddata, mae hefyd yn cynnwys deunydd a gyhoeddwyd cyn 1 Awst 1989 sy'n destun hawlfraint y Goron.
  • Trefniadau argraffyddol o ddeunydd a gyhoeddwyd: 25 mlynedd o ddiwedd y flwyddyn pan gyhoeddwyd y gwaith gyntaf. Gwarchodir argraffiadau newydd o waith sydd allan o hawlfraint hefyd.

Copïo at ddibenion Astudio Preifat neu Ymchwil

Cewch wneud un copi neu ddetholiad byr at eich dibenion astudio preifat eich hun a/neu at ddiben ymchwil anfasnachol. Ni fanylir ar faint y darn y gellir ei gopïo ond ni ddylai fod yn sylweddol. Mae hyn yn berthnasol i bob math o waith sy'n destun hawlfraint gan gynnwys perfformiadau sydd wedi'u recordio. Fodd bynnag, nid yw sgoriau cerddorol wedi'u cynnwys yn y fframwaith copïo hwn.

Yn aml diffinnir y cyfyngiadau fel:

  • darn nad yw'n fwy na 5% neu un bennod o'r un ffynhonnell (pa un bynnag sydd fwyaf); erthygl unigol mewn rhifyn cyfnodolyn neu set o drafodion cynhadledd; achos unigol o adroddiad cyhoeddedig neu drafodion barnwrol; golygfa unigol o ddrama, neu un stori fer neu un gerdd neu un ddrama nad yw'n hwy na 10 tudalen o hyd a gynhwysir mewn antholeg.

Rhaid i chi sicrhau eich bod yn defnyddio'r deunydd mewn modd teg; a rhaid i chi bob amser roi cydnabyddiaeth briodol i ddeiliad yr hawlfraint wrth gopïo at ddibenion ymchwil. Mae'r caniatâd hwn yn cael ei adnabod fel "delio'n deg" a mater i ddoethineb yr unigolyn ydyw; ydy'r atgynhyrchiad yn effeithio ar werthiant masnachol y gwaith gwreiddiol ac a fyddai'n cael ei ystyried yn rhesymol ac yn briodol? Mae'n berthnasol i'r eithriadau sy'n ymwneud ag ymchwil ac astudio preifat, beirniadaeth neu adolygu, ac adrodd y newyddion.

Adran 29 y Ddeddf Hawlfraint Dyluniadau a Phatentau

Dyfynnu, Beirniadu ac Adolygu

Ceir eithriad arall lle gallwch gopïo darnau cyfyngedig iawn at ddibenion beirniadu ac adolygu. Mae hyn yn berthnasol i waith a gyhoeddir ac mae'n ofynnol i chi gydnabod y ffynhonnell.

Mae rhywfaint o orgyffwrdd rhwng defnyddio'r eithriad ar gyfer beirniadu ac adolygu ac ar gyfer dyfynnu. Yn fras, gellir defnyddio'r eithriad dyfynnu i roi dyfyniadau byr o amrywiaeth o ffynonellau. Gellir defnyddio'r eithriad beirniadu ac adolygu i feirniadu neu adolygu gwaith gwreiddiol ar gyfer ystyr a/neu gynnwys.

Cewch ddibynnu ar yr eithriadau hyn dan yr amgylchiadau canlynol:

  • mae'r gwaith ar gael yn gyhoeddus
  • mae'r defnydd o'r deunydd yn deg
  • defnyddir y detholiad at ddiben dyfynnu, beirniadu neu adolygu
  • lle bynnag y bo'n ymarferol, mae cydnabyddiaeth ynghlwm wrth y defnydd o'r gwaith (sy'n nodi crëwr a theitl y gwaith)
    Ni ddylid defnyddio'r dyfyniad y tu hwnt i'r hyn sy'n angenrheidiol at eich diben.

Dylid sylwi na chaiff contract drechu'r eithriadau ar gyfer dyfynnu ac ar gyfer beirniadu ac adolygu.

Adran 30 y Ddeddf Hawlfraint Dyluniadau a Phatentau

Cloddio Testun a Data

Caniateir i ymchwilwyr ddefnyddio technoleg cloddio testun a data ar waith sy'n destun hawlfraint. Mae'r eithriad hwn yn berthnasol i ddibenion anfasnachol yn unig. Fel ymchwilydd, mae'n rhaid eich bod wedi cyrchu'r gwaith drwy ffordd gyfreithlon, er enghraifft, drwy danysgrifiad llyfrgell. Rhaid i chi ddarparu cydnabyddiaeth ddigonol oni bai nad yw hyn yn ymarferol.

Adran 29A y Ddeddf Hawlfraint Dyluniadau  a Phatentau

Adrodd y Newyddion

Gallwch ddefnyddio deunydd sy'n destun hawlfraint i adrodd ar ddigwyddiadau cyfoes ar yr amod eich bod yn gwneud hynny ar sail egwyddorion 'delio'n deg' a'ch bod yn cydnabod eich ffynhonnell. Mae hyn yn cynnwys darnau byr o destun neu ddarnau byr o gyfryngau digidol a ddefnyddir i adrodd ar ddigwyddiadau cyfoes. Nid yw ffotograffau wedi'u cynnwys a rhaid cael caniatâd deiliad yr hawlfraint i'w hatgynhyrchu.

Mae trwydded sylfaenol y Brifysgol gan yr Asiantaeth Trwyddedu Papurau Newydd yn caniatáu copïo o bapurau cenedlaethol y DU ac o 5 teitl rhanbarthol at ddibenion dysgu ac addysgu. Nid yw'n cynnwys papurau newydd rhyngwladol.

I gael rhagor o wybodaeth am y drwydded ar gyfer sefydliadau addysgol, ewch i wefan Media Access NLA.

Parodi, Gwawdlun, Pastiche

Caniateir i chi ddefnyddio'r amddiffyniad 'delio'n deg' os ydych yn defnyddio gwaith sy'n bodoli at ddibenion gwawdlun, parodi neu bastiche. Gallwch ddefnyddio eithriad hawlfraint i greu gwaith newydd heb orfod cael caniatâd penodol gan ddeiliad yr hawliau. Fodd bynnag, gofalwch nad yw defnydd dychanol yn cyfateb i ymddygiad difrïol, a dylai fod gwahaniaethau amlwg rhyngddo a'r gwaith gwreiddiol.

  • Fel arfer, seilir cyfansoddiad pastiche ar nifer o ffynonellau gwahanol
  • Mae parodi'n camliwio neu'n efelychu, yn aml at ddibenion dychan neu effaith ddigrif
  • Mae gwawdlun yn bortread wedi'i orliwio neu ei symleiddio o unigolyn i greu effaith ddigrif

Adran 30A y Ddeddf Hawlfraint Dyluniadau  a Phatentau

Gwaith Amddifad

Os nad ydych yn gallu canfod pwy yw deiliad yr hawliau, neu os yw crëwr y gwaith yn anhysbys, rydych yn delio â gwaith amddifad. Daw hawlfraint i ben ar ddiwedd 2039.