Skip to Main Content

Hawlfraint: Gwybodaeth i Athrawon

This page is also available in English

Copïo at Ddiben Addysgu

Copïo at Ddiben Addysgu

Cewch gopïo darnau cyfyngedig o ddeunyddiau hawlfraint ar yr amod bod hynny at ddibenion addysgu anfasnachol. Mae’n rhaid i’r defnydd o waith hawlfraint yn y dosbarth fod yn destun prawf 'delio teg' ac mae’n berthnasol i ddeunydd sydd wedi’i roi ar gael yn gyhoeddus yn unig. Nid yw gwaith nad yw wedi’i gyhoeddi yn gynwysedig yn yr eithriad hwn sy’n ymwneud ag addysg. Mae’r eithriad ‘enghreifftio i addysgu’ yn ymestyn i gopïo gwaith i unrhyw gyfrwng, er enghraifft byrddau gwyn rhyngweithiol a chyflwyniadau.

  • Mae’n rhaid cynnwys cydnabyddiaeth ddigonol wrth ddefnyddio’r gwaith
  • Mae’n rhaid i chi ofalu eich bod yn defnyddio’r gwaith dim ond i egluro’r pwynt; ni ddylai effeithio ar ddeiliad yr hawliau
  • O fewn cyfnod o bum mlynedd, ni cheir cynnwys mwy na dau ddarn o waith hawlfraint mewn antholeg
  • Ni ellir trechu’r eithriad hwn drwy gontract
  • Mae defnyddio gwaith hawlfraint at ddibenion arolygu yn destun 'delio teg'. Cewch hefyd ddibynnu ar yr eithriad dyfynnu; fodd bynnag, nid yw hyn yn cynnwys gwneud copi o waith cerddorol i ymgeisydd ei berfformio yn ystod arholiad
  • Caiff darnau o waith eu copïo a’u defnyddio ar daflenni myfyrwyr a’u cynnwys yn yr rhith-amgylchedd dysgu fel arfer yn unol â thelerau’r Drwydded Addysg Uwch yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint. Mae graddau a chyfyngiadau yn berthnasol.

Adran 32, CDPA

Cipio Darlithoedd

Planet eStream ar gyfer Cipio Darlithoedd ym Mhrifysgol Abertawe
Rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth

Ni all staff ddefnyddio’r cyfleuster cipio darlithoedd nes eu bod wedi cysylltu â salt@swansea.ac.uk a mynd i sesiwn hyfforddi.

Mae Prifysgol Abertawe yn disgwyl i staff sy’n defnyddio’r gwasanaeth Cipio Darlithoedd i gydymffurfio â holl ddeddfwriaeth hawlfraint berthnasol y DU ac Ewrop. Mae hawlfraint yn bwysig iawn pan fo darlithoedd yn cael eu recordio a chyfrifoldeb yr aelod o staff yw sicrhau nad yw hynny’n amharu ar hawliau eiddo deallusol unrhyw drydydd parti. Mae recordiadau drwy system cipio darlithoedd yn waith hawlfraint yn eu rhinwedd eu hunain a chânt eu darparu at ddiben ymchwil personol, astudiaethau preifat, neu weithgareddau cyrsiau. Mae’r recordiadau yn destun y Polisi Dileu sefydliadol pan fo angen hynny ac ni ddylid eu rhannu’n gyhoeddus.

Caiff darlithoedd gynnwys deunydd sydd â hawlfraint sy’n eiddo i drydydd parti os yw un o’r canlynol yn berthnasol:

a. Cymeradwywyd eithriad addysgol dan gyfraith hawlfraint y DU (CDPA 1988):

  • mae deunydd yn cael ei ddefnyddio i ddyfynnu; i enghreifftio at ddiben addysg; at ddiben beirniadu ac adolygu, neu at ddiben parodi neu bastiche

Os ydych yn defnyddio un o’r eithriadau hyn mae’n rhaid bod yn 'deg' ac mae’n rhaid ystyried y canlynol:

  • mae’n rhaid i’r gwaith fod ar gael yn gyfreithlon i’r cyhoedd
  • ni chaniateir copïo i raddau mwy na’r hyn sy’n angenrheidiol at y diben penodol
  • ni ddylai’r defnydd amharu ar hawliau masnachol deiliad yr hawliau
  • ni ddylid cynnwys y gwaith oni bai bod gwir angen gwneud hynny, e.e. ni ddylid defnyddio delweddau at ddibenion addurno
  • mae’n rhaid i’r copïo gael ei wneud gan y person sy’n addysgu neu’n derbyn addysg
  • mae’n rhaid i’r copïo fod at ddibenion anfasnachol yn unig
  • mae’n rhaid cydnabod y darn yn ddigonol

b. Mae ffactorau eraill yn berthnasol:

  • Mae’r hawlfraint wedi dod i ben neu wedi’i ildio
  • Rydych wedi cael caniatâd gan ddeiliad yr hawlfraint. Mae’n rhaid i chi gadw at y telerau a nodir gan ddeiliad yr hawliau
  • Mae modd i chi ddefnyddio trwydded agored, megis Creative Commons
  • Rydych yn gwneud copi dan delerau trwydded a ddelir gan y Brifysgol, megis Trwydded Addysg Uwch yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint neu Drwydded yr Asiantaeth Recordio Addysgol (ERA). Gellir darparu’r deunydd hwn i fyfyrwyr sy’n dilyn cwrs astudio penodol yn unig, nid ei rannu mewn llwyfan ar-lein cyhoeddus

Ni ddylai deunydd cipio darlithoedd gynnwys deunydd o ffynonellau megis iPlayer neu YouTube. Mae’n bosibl cynnwys darnau o’r teledu neu’r radio sydd wedi’u recordio o dan yr ERA (Trwydded yr Asiantaeth Recordio Addysgol). Mae’n rhaid i unrhyw ddarn nodi’n glir enw’r rhaglen, dyddiad y recordiad a’r sianel. Dylid cynnwys datganiad yn cydnabod y cafodd ei recordio dan delerau’r Drwydded ERA.

Defnyddio Trwyddedau ar gyfer Dysgu ac Addysgu

Sganio o dan Drwydded Addysg Uwch yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint

Mae Trwydded Addysg Uwch yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint yn caniatáu ar gyfer creu darlleniadau cwrs wedi’u digideiddio er mwyn cyflwyno i fyfyrwyr trwy rith-amgylchedd dysgu Blackboard. Gall darnau a delweddau cyhoeddedig o lyfrau a siwrnalau fod ar gael ar fyrddau gwyn rhyngweithiol, mewn cyflwyniadau PowerPoint a rhestrau darllen ar-lein.

Mae terfynau ar nifer y darnau y cewch eu defnyddio; ni cheir defnyddio mwy na 10% neu un bennod (pa un bynnag sydd fwyaf), neu un erthygl mewn unrhyw rifyn unigol o siwrnal neu gyfres o gynadleddau; un achos sengl o adroddiad cyhoeddedig o achosion barnwrol; un olygfa o ddrama, neu un stori fer neu un gerdd neu un ddrama nad yw’n fwy na 10 tudalen o hyd, sydd wedi’i chynnwys mewn antholeg. Nid yw papur cerddoriaeth wedi’i gynnwys yn nhrwydded Addysg Uwch yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint.

Mae Gwasanaeth Sganio’r Llyfrgell yn cynnig gwasanaeth digideiddio am ddim ar gyfer staff academaidd. I gydymffurfio â’r gofynion penodol hyn sy’n rhan o drwydded Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint Prifysgol Abertawe, ni ddylech wneud eich sganio eich hun ar gyfer Blackboard o waith cyhoeddedig. Mae’n rhaid i ddarnau sydd wedi’u sganio gynnwys hysbysiad hawlfraint, gael eu cadw’n ganolog a’u recordio at ddibenion adrodd blynyddol yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint. Y Gwasanaeth Sganio ISS yn unig gaiff sganio’r gwaith felly.

Ewch i dudalen y Gwasanaeth Sganio yma i wneud cais am sganiau. Bydd sganiau digidol yn cysylltu’n uniongyrchol â rhestr darllen eich modiwl. Pan fo tanysgrifiad ar gael i fersiwn electronig o’r gwaith, cysylltwch â chatalog y Llyfrgell drwy ddefnyddio permalink.

Recordio darllediadau gan sefydliadau addysgol

Mae gan y Brifysgol Drwydded Recordio Addysgol (ERA) i gefnogi addysgwyr i fanteisio ar raglenni teledu a radio a ddarlledwyd yn y DU. Cewch recordio darllediadau oddi ar yr awyr i fyfyrwyr nad ydynt wedi’u cynnwys dan drwydded ERA y Brifysgol dan eithriadau hawlfraint. Mae’n ofynnol i chi gydnabod y ffynhonnell ac mae’n berthnasol i ddibenion anfasnachol yn unig.

Adran 35, CDPA

A gaf i ddefnyddio fy nghyhoeddiadau fy hun yn y rhith-amgylchedd dysgu?

Ni chewch fod yn ddeiliad yr hawlfraint ar gyfer y gwaith cyhoeddedig. Mae’r hawliau fel arfer yn eiddo i’r cyhoeddwr oni bai eich bod wedi cadw’r hawlfraint wrth lofnodi’r contract. Os nad yw eich llyfr neu’ch erthygl wedi’i chyhoeddi drwy ddefnyddio trwydded Creative Commons, neu os na wnaethoch chi ddefnyddio adendwm awdur, byddai angen i chi fel arfer atgynhyrchu unrhyw ran sydd ei hangen at eich dibenion addysgu dan delerau Trwydded Addysg Uwch yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint.

Defnyddio Recordiadau Sain at Ddibenion Addysgu

Ceir defnyddio CD sain a brynir yn fasnachol yn yr ystafell ddosbarth ond ni ddylid ei defnyddio wrth recordio darlith.

Nid oes cyfyngiad fel ar arfer ar ddefnyddio podlediadau yr ydych yn eu lawrlwytho o’r we. Sicrhewch eich bod yn edrych ar y datganiad cysylltiedig neu’r drwydded ailddefnyddio er eglurdeb.

Perfformio, Chwarae neu Ddangos Gwaith Hawlfraint

Caiff sefydliad addysgol berfformio, chwarae neu ddangos gwaith hawlfraint at ddibenion addysgu neu asesu yn rhan o gwrs achrededig (A34). Mae’n rhaid i’r gynulleidfa gynnwys myfyrwyr, athrawon ac eraill sy’n gysylltiedig â’r sefydliad. Ni cheir perfformio recordiadau sain neu glyweledol i aelodau’r cyhoedd neu unrhyw rai eraill nad ydynt yn gysylltiedig â’r brifysgol heb ofyn am ganiatâd neu drwydded addas yn gyntaf.

Wrth ddangos ffilmiau neu ddefnyddio recordiadau sain a darllediadau, dylech chi sicrhau ffynhonnell unrhyw ddeunydd a geir ar YouTube neu wefannau tebyg. A oes gan y person sy’n postio’r cynnwys ganiatâd i wneud hynny? Ffefrir cysylltu i adnoddau yn hytrach na’u gosod yn eich deunyddiau addysgu. Peidiwch â chysylltu ag unrhyw ddeunydd yr ydych yn amau ei fod yn amharu ar hawlfraint.

Adran 34 CDPA