Mae EThOS wedi’i greu i gynnig un pwynt mynediad i draethodau ymchwil y DU ac yn chwarae rôl arwyddocaol wrth arddangos ymchwil y DU i’r byd. Mae gan EThOS, a gynhelir gan y Lyfrgell Brydeinig, fwy na 100 o brifysgolion y DU ynghlwm yn y prosiect. Gall gynnig ystod eang iawn o deitlau fel lawrlwythiadau testun llawn. Os bydd eitem rydych ei hangen eisoes yn EThOS yna mae ar gael i’w lawrlwytho i’ch bwrdd gwaith ar unwaith am ddim; os nad ydyw, gallwch brynu copi wedi’i sganio oddi wrth EThOS.
Mae Casgliad Traethodau Cymru yn cynnwys oddeutu 50,000 o draethodau a thraethodau hir a gyflwynwyd ar gyfer graddau ôl-radd mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. Mae'r casgliad yn cynnwys traethodau a thraethodau hir sy'n deillio o bob gradd PhD a Meistr, yn ogystal â thraethodau hir cyrsiau Meistr a addysgwyd sydd â diddordeb Cymreig neu sydd wedi derbyn rhagoriaeth.
ProQuest Dissertations & Theses Global yw casgliad mwyaf cynhwysfawr y byd o draethodau hir a thraethodau ymchwil o bob cwr o’r byd, yn dyddio o 1743 hyd at heddiw. Mae’n cynnig mynediad testun llawn i waith graddedigion a ychwanegwyd ar ôl 1997, a mynediad testun llawn i ddetholiad o waith raddedigion a ychwanegwyd cyn 1997. Mae’n cynnwys nifer sylweddol o draethodau hir a thraethodau ymchwil rhyngwladol newydd ar ffurf dyfyniadau a thestun llawn.
Os nad yw traethawd ymchwil ar gael ar-lein, gallwch gyflwyno cais i'w fenthyca drwy'r gwasanaeth Benthyciadau rhwng Llyfrgelloedd. Cysylltwch â'r tîm Cyflenwi Dogfennau am ragor o fanylion.