Skip to Main Content

E-Draethodau Ymchwil & Casgliad Draethawd: Hafan

This page is also available in English

Cysylltu

Ar gyfer ymholiadau’n ymwneud ag e-draethodau ymchwil cysylltwch â thîm Cymorth Ymchwil y Llyfrgell openaccess@abertawe.ac.uk

Ar gyfer ymholiadau’n ymwneud a’r ystorfa, cysylltwch ag LibraryResearchSupport@abertawe.ac.uk

Ffôn: 01792 604567

@SULibResSupport

E-draethodau ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe

Dataganiad Preifatrweydd

Ynglŷn ag e-draethodau ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe

Mae’r Llyfrgell yn falch o gynnig gwasanaeth ystorfa e-draethodau ymchwil cyfryngol ar gyfer traethodau ymchwil Prifysgol Abertawe. Mae hwn yn wasanaeth swyddogol ar y cyd â’r Gwasanaethau Academaidd
O fis Hydref 2017, bydd disgwyl i bob myfyriwr PhD newydd ddarparu fersiwn electronig mynediad agored o’i draethawd ymchwil PhD ar ôl cwblhau ei astudiaethau’n llwyddiannus. 
O fis Hydref 2021, rhaid i bob lefel Traethodau ymchwil gradd ymchwil, gan gynnwys PhD, Doethuriaethau Proffesiynol, MPHil, Meistr Ymchwil ac MRes gael eu cyflwyno fel fersiwn electronig ar ôl cwblhau eu hastudiaethau'n llwyddiannus.

 

  • Ceir disgwyliad bod testun llawn e-draethawd hir yn cael ei gyflwyno yn y System Gwybodaeth Ymchwil (RIS) er mwyn ei gadw fel cofnod sefydliadol. O ganlyniad i bandemig Covid, mae copïau caled PhD heb eu catalogio ac nid ydynt yn hygyrch yn y Llyfrgell. Rydym yn symud i fynediad cwbl ddigidol drwy'r storfa.
  • Bydd yr E-draethawd ymchwil yn cael ei ychwanegu gan weinyddwr y storfa at y Gronfa. Mae angen cytundeb cyflwyno gan yr awdur cyn y gellir rhyddhau e-gopi o’r testun cyflawn i’r cyhoedd trwy Cronfa, ystorfa’r sefydliad.
  • Mae cyflwyno dogfen yn electronig i Cronfa yn cydymffurfio â pholisi mynediad agored RCUK ar gyfer grantiau hyfforddi a pholisïau data ymchwil. Mae disgwyl i unigolion sydd wedi derbyn grant hyfforddi sicrhau bod fersiwn mynediad agored ar gael yn yr ystorfa cyn pen 12 mis ar ôl cwblhau eu gradd.
  • Mae angen cytundeb adneuo'r awdur cyn i ni allu darparu'r fersiwn electronig testun llawn i'r cyhoedd drwy Gronfa, y storfa sefydliadol. 
    • Bydd rhyddhau drwy'r llyfrgell yn hwyluso gwiriadau rheoli fersiynau, cydymffurfiaeth hawlfraint cynnwys trydydd partïon a gwiriadau adneuo technegol.

Er mwyn dewis pa ddull cyflwyno sydd fwyaf priodol i chi, dylech ystyried:

  • gofynion unrhyw arian yr ydych wedi ei dderbyn i astudio.
  • materion hawlfraint, e.e. os oes cynnwys trydydd parti yn eich traethawd ymchwil.
  • unrhyw ystyriaethau sensitif neu fasnachol.
  • Cyfrifoldeb yr unigolyn yw sicrhau bod deunydd hawlfraint trydydd parti sy'n eiddo i drydydd parti wedi'i glirio. Mae rhagor o wybodaeth yn 'Keeping Your thesis Legal'. Efallai byddwch am ryddhau fersiwn heb ei golygu o'r gwaith os yw hyn yn briodol.

Mae traethawd ymchwil mynediad agored:

  • Yn darparu gwaith ysgolheigaidd sydd ar gael ar-lein, heb gost i’r defnyddiwr terfynol.
  • Yn galluogi’r defnyddiwr terfynol i rannu fersiwn ddigidol ac i ailddefnyddio’r cynnwys cyn belled â’i fod yn cydnabod yr awdur gwreiddiol.

Yn ogystal â’r wybodaeth sydd ar gael yn y Canllaw hwn gan y Llyfrgell, mae tîm Cymorth Ymchwil y Llyfrgell yn cynnal sesiynau hyfforddi i edrych ar faterion yn ymwneud â darparu e-draethawd ymchwil testun cyflawn i’r ystorfa sefydliadol. Mae’r llyfrgell yn rhan o raglen datblygu sgiliau myfyrwyr ôl-raddedig y brifysgol. Rydym yn cynnig cyngor ar gyflwyno e-draethawd ymchwil trwy e-bost neu gymorth unigol.

Datganiad Hawlfraint

Mae'r gwaith hwn wedi'i drwyddedu o dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0.

Creative Commons Licence